Canlyniadau blaenorol

Bob blwyddyn, mae HESA yn rhyddhau ystadegau o bob arolwg Hynt Graddedigion blynyddol. Caiff yr ystadegau hyn eu defnyddio gan y llywodraeth, elusennau, newyddiadurwyr, ymchwilwyr ac eraill i ddeall y sector addysg uwch a chyflwr y farchnad lafur i raddedigion. Bydd eich prifysgol / coleg hefyd yn eu defnyddio i werthuso a hyrwyddo ei gyrsiau.

Dyma ddetholiad o ystadegau arbrofol ar lefel genedlaethol o’r arolwg o raddedigion o ddosbarth 2019/20:

Hynt Graddedigion canlyniadau'r arolwg 2019/20

Dyma ddetholiad o ystadegau arbrofol ar lefel genedlaethol o’r arolwg o raddedigion o ddosbarth 2018/19:

  • Cawsom ymatebion gan bron i 400,000 o raddedigion
  • Roedd 79% o'r graddedigion a ymatebodd mewn Cyflogaeth â Thâl
  • Roedd 20% o'r graddedigion yn cymryd rhan mewn astudiaethau pellach
  • Roedd 90% o’r ôl-raddedigion o 2018/19 a oedd mewn gwaith yn y DU mewn swyddi sgiliau uchel, o gymharu â 69% o israddedigion
  • Y diwydiannau y cofnodwyd eu bod yn gweithio ynddynt amlaf oedd: Gweithgareddau iechyd dynol a gwaith cymdeithasol (21%), ac Addysg (20%)
  • Teimlai 85% o'r graddedigion bod eu gweithgarwch presennol yn ystyrlon
  • Teimlai 78% o'r graddedigion bod eu gweithgarwch presennol yn cyd-fynd â'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol
  • Roedd 71% o'r graddedigion yn defnyddio'r hyn a ddysgwyd ganddynt wrth astudio
  • Roedd 74% o'r graddedigion yn fodlon â’u bywyd


Dyma ddetholiad o ystadegau arbrofol ar lefel genedlaethol o’r arolwg o raddedigion o ddosbarth 2017/18:

  • Roedd 81% o raddedigion mewn cyflogaeth neu waith di-dâl
  • Roedd 38% o raddedigion a oedd yn gweithio yn y DU mewn diwydiannau addysg neu iechyd
  • Roedd 74% o raddedigion a oedd yn gweithio ar gyfer cyflogwr yn y DU ar gontractau parhaol neu benagored
  • Roedd dros 61,000 o raddedigion yn hunangyflogedig, yn rhedeg eu busnes eu hunain neu'n datblygu portffolio
  • Roedd 18% o raddedigion yn ymgymryd ag astudiaethau pellach 15 mis ar ôl cwblhau eu cwrs
  • Roedd 76% o raddedigion a oedd yn gweithio yn y DU mewn swyddi sgiliau uchel
  • Roedd 1 ym mhob 20 o raddedigion a oedd yn gweithio yn y DU yn rheolwyr, cyfarwyddwyr ac yn uwch-swyddogion
  • Roedd 31% o raddedigion mewn cyflogaeth â thâl amser llawn yn y DU yn ennill mwy na £30,000 15 mis ar ôl graddio
  • Cytunodd 86% o raddedigion eu bod yn cyflawni gweithgaredd ystyrlon 15 mis ar ôl graddio
  • Cytunodd 80% o raddedigion bod y gweithgaredd roeddent yn ei gyflawni 15 mis ar ôl graddio yn cyd-fynd â'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol
  • Cytunodd 72% o raddedigion eu bod, 15 mis ar ôl graddio, yn defnyddio'r hyn yr oeddent wedi'i ddysgu yn ystod eu hastudiaethau.

 

Mae cymryd rhan yn Hynt Graddedigion yn golygu eich bod yn rhan o’r darlun hwn o addysg uwch heddiw.

I ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ystadegau Hynt Graddedigion, ewch i wefan HESA.

CC-BY 4.0

HESA, part of Jisc