Hynt Graddedigion sy'n ennill y dyfarniad uchaf o ran ansawdd data
25 April 2024
Trwy arbenigedd casglu a dadansoddi data, mae data arolwg Hynt Graddedigion yn datgelu'r darlun ehangach o'r llwybrau gyrfa a'r cyfleoedd a gymerwyd gan raddedigion diweddar. Ei nod - ysgogi arloesi mewn addysg uwch.
Un o'r ffyrdd y gallwn ddangos ansawdd y data hyn yw trwy gael achrediad gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR).
Chwe blynedd ar y gweill, mae'n bleser gennym gyhoeddi bod y data a'r ystadegau sy'n cael eu rhyddhau eleni (graddedigion o ddosbarth 2021/22) yn dangos nod barcud OSR o 'Ystadegau Swyddogol Achrededig' - y dyfarniad uchaf o ran ansawdd data.
Mae'r OSR yn darparu rheoleiddio annibynnol o'r holl ystadegau swyddogol a gynhyrchir yn y DU. Er mwyn cyrraedd y safon uchel sy'n ofynnol i gyrraedd statws Ystadegau Swyddogol Achrededig (a elwir yn Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007), rhaid i'r data a'r sefydliad sy'n eu cynhyrchu ddangos ymrwymiad i egwyddorion dibynadwyedd, ansawdd a gwerth.
Mae’r nod barcud hwn yn golygu y bydd graddedigion sy’n cwblhau’r arolwg yn gwybod bod HESA (sy’n cynhyrchu’r ystadegau) yn dangos ymrwymiad “rhagorol” i’r egwyddorion hyn. Gall defnyddwyr eraill y data hefyd fod yn sicr eu bod yn ddibynadwy at ddibenion cynllunio a gwneud penderfyniadau.
Meddai Jonathan Waller, Cyfarwyddwr Data ac Arloesi HESA: “Gall defnyddwyr y data hyn deimlo’n hyderus eu bod yn cynrychioli un o’r ffynonellau gwybodaeth gorau am ganlyniadau astudio a’r farchnad lafur i raddedigion yn y DU a’u bod yn cymharu’n ffafriol iawn ag arolygon cyfatebol a gynhaliwyd unrhyw le yn y byd.”
Mae gan y data hyn rai defnyddiau pwerus iawn gan gynnwys rheoleiddio darparwyr addysg uwch, arloesi, ymchwil a llunio polisi. A wnaethoch chi ddefnyddio Discover Uni, y Guardian University Guide neu Prospects Career Guides i'ch helpu i ddewis ble a beth i'w astudio? Os gwnaethoch hynny, yna byddai data Hynt Graddedigion wedi eich helpu i gyrraedd lle rydych chi heddiw.
Os ydych i fod i gymryd yr arolwg Hynt Graddedigion eleni, rydym yn gobeithio bod hyn yn dangos ein hymrwymiad i ansawdd, gan ddefnyddio'ch data i rymuso myfyrwyr yfory.
Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd HESA yn cyhoeddi'r ystadegau diweddaraf o ddosbarth 2021/22 a byddwn yn rhannu detholiad ar ein tudalen canlyniadau arolwg. Darllenwch ragor am y cyflawniad hwn ac edrychwch ar yr adroddiad yn llawn ar wefan HESA.
Pam mae'n bwysig eich bod yn cymryd rhan yn yr arolwg Graduate Outcomes, nawr yn fwy nag erioed?
18 November 2020
Gwnaethoch raddio tipyn dros flwyddyn yn ôl (llongyfarchiadau), a chysylltwyd â chi bellach i gwblhau'r arolwg Graduate Outcomes. Efallai eich bod yn gofyn pam y dylech roi amser i gymryd rhan nawr, yng nghanol pandemig?
Hoffwn ddweud wrthych fod eich ymateb yn bwysicach nawr nag erioed. Rydym yn byw mewn cyfnod digyffelyb a gall yr arolwg Graduate Outcomes helpu inni ddeall a mesur, i ryw raddau, effaith y pandemig hwn ar fywydau a bywoliaethau yn well.
Dim ond pan ydym yn mesur yr effaith y gall y llywodraeth, darparwyr addysg uwch a defnyddwyr eraill o'r data ddechrau cymryd camau cymesur i fynd i'r afael â hi yn y dyfodol.
Defnyddiau ar gyfer yr wybodaeth a gesglir yn yr arolwg Graduate Outcomes
Gwella cymorth gyrfaoedd mewn addysg uwch
Er enghraifft, gallai gwybod faint o raddedigion yn ddi-waith ac yn chwilio am waith helpu'ch prifysgol neu goleg i hwyluso ymdrechion mwy trylwyr i ddarparu cyngor gyrfaoedd sydd ei angen yn fawr i'r rhai a fyddai'n elwa. Gallent hefyd elwa ar dueddiadau ynghylch graddedigion newydd a allai ddewis gohirio gwaith o blaid astudiaeth bellach.
Dylanwadu ar benderfyniadau ariannu’r llywodraeth
Gallai gwybod pa sectorau sy'n eu cael yn anodd cadw gweithwyr sy'n raddedigion alluogi'r llywodraeth i nodi mannau pwysau allweddol yn y farchnad lafur a chymryd camau gweithredu i'w helpu. Gallai llunwyr polisi elwa ar fesur yr awydd am fusnesau cychwynnol, gan helpu i lunio cymorth yn y dyfodol i entrepreneuriaid newydd.
Cefnogi dealltwriaeth cyflogwyr
Gallai dealltwriaeth gliriach o ddeilliannau graddedigion alluogi darpar gyflogwyr i fanteisio ar gronfa o raddedigion medrus sydd wedi'u haddysgu'n dda ac yn barod am y diwydiant. Gallai annog cynghreirio ac arloesi, efallai ar ffurf prentisiaethau a chynlluniau cyflogaeth i raddedigion, neu drwy ddilyniant a chyfleoedd dysgu â chymorth i'r rheini sydd eisoes mewn cyflogaeth.
Gofyn i raddedigion sut y maent yn teimlo
Yn ddi-os, teimlir effaith yr argyfwng byd-eang hwn am o leiaf ychydig o flynyddoedd i ddod. Bydd yn rhaid i unigolion a sefydliadau addasu ac ymateb i ofynion newidiol a pharatoi i wneud hyn ymlaen llaw. Mae meddu ar dystiolaeth gadarn fel sail i’r penderfyniadau hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effaith a ddymunir.
Rydym yn gwybod bod y pandemig hwn yn ysgrifennu hanes. Rydych chi a fi yn rhan fawr o'r hanes hwn. Nid yn unig yw'n bwysig nodi'r hyn yr ydym yn ei wneud yn ein bywydau ar hyn o bryd, ond hefyd sut yr ydym yn teimlo am y sefyllfa sydd ohoni a pha effaith mae'n ei chael arnon ni.
Mae'r arolwg yn holi pa mor ystyrlon yr ydych chi'n teimlo yw eich gweithgaredd cyfredol a sut mae'n cyd-fynd â'ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Ochr yn ochr â hyn, mae'r arolwg hefyd yn gofyn am ba mor hapus neu bryderus yr ydych yn teimlo. Nid diben y cwestiynau llesiant hyn yw eich beirniadu neu eich dosbarthu o dan gategori penodol, ac nid ydynt yn newydd i'r arolwg. Mae'r atebion a roddwch yn fodd i ddeall sut mae lles graddedigion diweddar yn cymharu â gweddill y boblogaeth, sut mae lles yn gysylltiedig â ffactorau eraill (fel math o gontract cyflogaeth neu ddefnydd o sgiliau yn y gwaith), a sut mae'n newid dros amser (mesurir yr olaf yn genedlaethol o dan lesiant personol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol).
Rwy'n gobeithio y byddai hyn yn eich annog i gymryd rhan yn yr arolwg Graduate Outcomes pan fo'r gwahoddiad yn cyrraedd eich mewnflwch, neu i fynd yn ôl i'r ddolen sydd gennych eisoes. Os nad ydych yn siŵr o hyd ei bod yn werth cwblhau'r arolwg, byddwn yn eich annog i'w archwilio o leiaf cyn ichi benderfynu.
I gael rhagor o fanylion am yr arolwg Graduate Outcomes, ewch i cy.graduateoutcomes.ac.uk.
Neha Agarwal
Pennaeth Ymchwil a Mewnwelediad, HESA