Neidio i'r prif gynnwys
Croeso i Hynt Graddedigion

Miloedd o leisiau graddedig. Un arolwg

Mae'r arolwg Hynt Graddedigion yn bodoli i wella profiad myfyrwyr y dyfodol. Dyna pam rydyn ni eisiau clywed oddi wrthych. Hoffem ddeall mwy am eich llwybr gyrfa a'ch profiadau ar ôl gadael addysg uwch.

Graffig crwn gyda'r rhif 10 mewn ffont du a gwyn trwm yn y canol. O amgylch y rhif mae'r geiriau "Mae'n cymryd 10 munud I lunio'r dyfodol" mewn ffont gwyn, crwm, gyda seren ar y naill ochr a'r llall i'r testun.

Rydym yn gofyn i'r holl raddedigion rannu eu safbwyntiau, 15 mis ar ôl iddynt orffen eu cwrs, i greu darlun cenedlaethol y mae prifysgolion a cholegau'r DU yn ei ddefnyddio i arloesi eu gwasanaethau.

Mae tablau cynghrair, ‘Prospects’ a ‘The Complete University Guide’ yn defnyddio ein data Hynt Graddedigion i helpu myfyrwyr i wneud penderfyniadau am eu dyfodol.

Pam cymryd rhan yn yr arolwg?

Mae gan eich ymateb i'r arolwg 10 munud y pŵer i ddylanwadu ar bolisi addysg uwch a'r farchnad swyddi graddedigion.

Peidiwch â chymryd ein gair ni amdano...

Rydw i newydd gwblhau'r arolwg Hynt Graddedigion, 15 mis ar ôl graddio o Brifysgol Solent. Rydw i'n cofio yn fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol gweld arolwg y cyn-raddedigion a gweld y meysydd posibl y gallai fy ngradd fy arwain atynt - gobeithio y gall fy nghyfraniad ysbrydoli hefyd!"

Jake Plant, graddedig o ddosbarth Prifysgol Solent yn 2023, BA Rheolaeth Busnes

Canlyniadau'r arolwg diweddaraf

O ddosbarth 2022/23...

381,945 o ymatebion wedi dod i law – diolch!
88% graddedigion mewn rhyw fath o waith neu astudiaeth bellach
59% mewn cyflogaeth amser llawn, 5% mewn astudiaethau pellach amser llawn ac roedd 6% yn ddi-waith
85% teimlai graddedigion y DU bod eu gweithgaredd presennol yn ystyrlon

Data gan raddedigion heddiw, yn grymuso myfyrwyr yfory

Data Hynt Graddedigion yw'r data mwyaf cyflawn sydd ar gael ar y farchnad lafur ar gyfer graddedigion o sefydliadau addysg uwch. Am y rheswm hwn mae ganddo rai defnyddiau eithaf pwerus!

Mae eich adborth yn helpu eich prifysgol / coleg i wella cyrsiau, yn cefnogi myfyrwyr y dyfodol, ac yn cryfhau gwasanaethau gyrfaoedd. Mae hefyd yn llunio craffu cenedlaethol ar addysg uwch a'r farchnad swyddi graddedigion - a ddefnyddir gan lywodraethau, ymchwilwyr, a mwy.

Dyma'r ffyrdd pwerus eraill y mae eich ymatebion i'r arolwg yn cynorthwyo myfyrwyr yfory - cliciwch i ddysgu rhagor:

Dywedwch wrthym am fywyd ar ôl addysg uwch

Mae Hynt Graddedigion yn unigryw am ei fod yn cysylltu â chi mwy na blwyddyn (15 mis) ar ôl i chi orffen eich astudiaethau. Credwn fod hyn yn rhoi amser i chi ystyried gwerth eich astudiaethau yn eich gweithgareddau cyfredol, sut mae hyn yn cymharu â'ch cynlluniau gwreiddiol, a sut rydych yn defnyddio sgiliau y cawsoch yn ystod eich cyfnod mewn addysg.

Chi yw'r unig un sy'n gwybod a wnaethoch adael addysg â'r sgiliau a gwybodaeth angenrheidiol i gyrraedd eich lleoliad presennol. Rydym hefyd yn awyddus i ddeall y llwybrau anhraddodiadol y mae graddedigion yn eu cymryd ar ôl cwblhau eu haddysg. Nid cyflogaeth yw'r unig ganlyniad llwyddiannus: rydym am wybod am yr hyn yr ydych yn ei wneud, gan ddeall yn iawn yr hyn yr ydych yn ei ystyried yn foddhaus.

Rhannwch eich cyfraniad

Er mwyn gwneud hyn yn gyflym ac yn hawdd i chi, rydym wedi creu delwedd i'w rhannu ar eich cyfryngau cymdeithasol.

Yn syml, cadwch hi, lanlwythwch, a thagiwch ni gan ddweud pam y gwnaethoch gwblhau'r arolwg.

Delwedd i'w chadw a'i huwchlwytho i'ch cyfryngau cymdeithasol i rannu eich bod wedi cwblhau'r arolwg. Mae'n darllen "Ymunwch â mi - rwyf newydd gwblhau'r arolwg Hynt Graddedigion! Gwnewch i'ch llais gyfrif hefyd trwy glicio ar y ddolen e-bost".