Canlyniadau
Bob blwyddyn, mae HESA yn rhyddhau ystadegau o bob arolwg Hynt Graddedigion blynyddol.
Caiff yr ystadegau hyn eu defnyddio gan y llywodraeth, elusennau, newyddiadurwyr, ymchwilwyr ac eraill i ddeall y sector addysg uwch a chyflwr y farchnad lafur i raddedigion. Bydd eich prifysgol / coleg hefyd yn eu defnyddio i werthuso a hyrwyddo ei gyrsiau.
Cyhoeddodd HESA ganlyniadau’r arolwg Hynt Graddedigion diweddaraf ar 4 Mehefin 2026. Dyma ddetholiad o ystadegau swyddogol achrededig yn genedlaethol o arolwg graddedigion dosbarth 2022/23:
1,002,175
o raddedigion a holwyd rhwng 2 Rhagfyr 2024 a 30 Tachwedd 2025
353,755
o ymatebion wedi dod i law – diolch!
87%
graddedigion mewn rhyw fath o waith neu astudiaeth bellach
57%
mewn cyflogaeth amser llawn, 5% mewn astudiaethau pellach amser llawn ac roedd 7% yn ddi-waith
85%
teimlai graddedigion y DU bod eu gweithgaredd presennol yn ystyrlon
76%
teimlai graddedigion y DU bod eu gweithgaredd presennol yn cyd-fynd â'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol
68%
graddedigion y DU yn defnyddio'r hyn a ddysgwyd ganddynt wrth astudio
£43,749
graddedigion y DU a astudiodd feddygaeth a deintyddiaeth oedd â'r cyflog canolrif uchaf
£30,000
cyflog canolrif cyrsiau gradd gyntaf amser llawn mewn cyflogaeth amser llawn â thâl yn y DU
Mae cymryd rhan yn Hynt Graddedigion yn golygu eich bod yn rhan o’r darlun hwn o addysg uwch heddiw.
I gael rhagor o wybodaeth am ystadegau Hynt Graddedigion, ewch i wefan HESA.
HESA 2026. CC-BY 4.0