Gofynnir i'r holl raddedigion sydd wedi cwblhau cwrs gymryd rhan yn yr arolwg 15 mis ar ôl iddynt orffen eu hastudiaethau. Nod yr arolwg yw helpu myfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol i gael mewnwelediad i gyrchfannau gyrfa a datblygu.
Rydym am ddeall safbwynt graddedigion a'r hyn yr ydych yn ei ystyried yn llwyddiant yn dilyn eich cyfnod mewn addysg uwch. Bydd eich ymatebion o fudd i'ch prifysgol neu goleg wrth werthuso a hyrwyddo eu cyrsiau.
Byddwch yn derbyn eich gwahoddiad arolwg tua 15 mis ar ôl i chi gwblhau eich cwrs. Dylanwadwch ar ddyfodol addysg – byddwch yn rhan o'r darlun.