Manylion yr arolwg
Hynt Graddedigion yw arolwg cymdeithasol blynyddol mwyaf y DU ac mae'n cofnodi safbwyntiau a statws cyfredol graddedigion diweddar.
Gofynnir i'r holl raddedigion sydd wedi cwblhau cwrs yn y DU ar ôl mis Awst 2017 gymryd rhan yn yr arolwg 15 mis ar ôl iddynt orffen eu hastudiaethau. Nod yr arolwg yw helpu myfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol i gael mewnwelediad i gyrchfannau gyrfa a datblygu.
Rydym am ddeall safbwynt graddedigion a'r hyn yr ydych yn ei ystyried yn llwyddiant yn dilyn eich cyfnod mewn addysg uwch. Bydd eich ymatebion gwerthfawr o fudd i'ch prifysgol neu goleg wrth werthuso a hyrwyddo eu cyrsiau.
Fel arolwg cymdeithasol blynyddol mwyaf y DU, mae llais cyfunol graddedigion yn bwerus a bydd yn cael effaith uniongyrchol ar ddyfodol addysg ar gyfer darpar fyfyrwyr. Ymunwch â'ch cyd-raddedigion a byddwch yn rhan o ddarlun addysg heddiw.
Byddwch hefyd yn helpu eich prifysgol/coleg i ddeall y dewisiadau yr ydych wedi'u cymryd ers graddio a sut y mae hyn yn adlewyrchu'r sgiliau y gwnaethoch eu datblygu yn ystod eich addysg. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn hyrwyddo'u cyrsiau yn gywir i ddarpar fyfyrwyr.
Mae'r arolwg yn eich holi am yr hyn yr ydych yn ei wneud 15 mis ar ôl i chi orffen eich cwrs addysg uwch. Mae'n hefyd yn gofyn rhai cwestiynau goddrychol ynglŷn â'ch teimladau am eich sefyllfa bresennol a'ch llesiant cyffredinol. Mae'r arolwg yn cynnwys cyfres o gwestiynau craidd ac ni ddefnyddir eich ymateb os nad ydych yn ateb pob un o'r cwestiynau hyn. Efallai y bydd casgliadau ychwanegol o gwestiynau yn cael eu cynnwys trwy gais eich prifysgol/coleg a bydd y rhain yn cael eu nodi'n glir.
Mae'r cwestiynau llesiant goddrychol yn holi'r canlynol ar raddfa o 0 i 10:
- Pa mor fodlon ydych chi â'ch bywyd erbyn hyn?
- I ba raddau ydych chi'n teimlo bod y pethau rydych chi'n eu gwneud yn eich bywyd yn werth chweil?
- Pa mor hapus oeddech chi'n teimlo ddoe?
- Yn gyffredinol, pa mor bryderus oeddech chi'n teimlo ddoe?
Nid yw’r rhain yn gwestiynau gorfodol, felly does dim rhaid i chi rannu'r wybodaeth hon os nad ydych chi'n fodlon gwneud hynny. Dylech chi gymryd eich amser wrth benderfynu a ydych chi'n hapus cyn rhoi ateb, ond maen nhw'n rhoi mwy o werth i'ch atebion i'r arolwg. Ni fydd eich darparwr addysg uwch yn cael eich atebion i’r cwestiynau llesiant goddrychol mewn modd lle bydd yn bosib eich adnabod (bydd ond yn cael gwybodaeth ystadegol gyfanredol ynglŷn â'r cwestiynau llesiant).
Bydd graddedigion yn cael eu grwpio i mewn i bedair carfan ar draws y flwyddyn a bydd y rhain yn seiliedig ar dyddiad gorffen eich cwrs. Yn ddibynnol ar bryd y daeth eich cwrs i ben, byddwch yn derbyn eich gwahoddiad arolwg 15 mis yn ddiweddarach. Er enghraifft, os daeth eich cwrs i ben rhwng mis Mai a Gorffennaf 2023, byddwch yn derbyn yr arolwg ym mis Medi 2024.
Mae’r tabl isod yn dangos pryd y cewch eich arolwg os ydych yn nosbarth 2022/23:
Dyddiad gorffen y cwrs | Gwahoddiad arolwg |
Awst – Hydref 2022 | Rhagfyr 2023 |
Tachwedd 2022 – Ionawr 2023 | Mawrth 2024 |
Chwefror – Ebrill 2023 | Mehefin 2024 |
Mai – Gorffennaf 2023 | Medi 2024 |
Bydd gennych tua 12 wythnos i gwblhau'r arolwg a byddwn yn anfon e-byst a negeseuon testun i'ch atgoffa i gymryd rhan.
Mae HESA yn gweithio gyda'ch prifysgol neu goleg. Byddwch yn derbyn e-bost gan Hynt Graddedigion gydag enw eich prifysgol neu goleg yn y cyfeiriad e-bost, yn eich gwahodd i gwblhau'r arolwg ar-lein. Er enghraifft, bydd graddedigion yn derbyn e-bost gan: [enw'r darparwr] @graduateoutcomes.ac.uk. Dyma'r ffordd gyflymaf a hawsaf i gymryd rhan. Bydd modd i chi gwblhau'r arolwg ar y rhan fwyaf o ddyfeisiau fel y gallwch ei gwblhau ar eich taith foreol i'r gwaith, wrth fwyta brechdan yn ystod eich awr ginio, neu pan fydd gennych rai munudau'n rhydd yn ystod eich diwrnod.
Gallwch gadw eich safle yn yr arolwg a dod nôl i'r union fan y gwnaethoch chi orffen – ond peidiwch ag anghofio i gwblhau'r arolwg yn gyfan gwbl. Os byddwch wedi dechrau'r arolwg a heb ei gwblhau, byddwch yn derbyn nodyn i'ch atgoffa. Os na fyddwch eisiau cwblhau'r arolwg, byddwn ni'n cadw eich atebion os gwnaethoch gwblhau'r cwestiynau craidd neu'n dileu'r cyfan os na wnaethoch hynny.
Efallai y byddwch hefyd yn derbyn galwad ffôn. Yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) sy'n cynnal yr arolwg ac mae'r asiantaeth wedi penodi IFF Research i ffonio graddedigion er mwyn annog cyfranogiad yn yr arolwg dros y ffôn. Byddant yn datgan eu bod yn galw ar ran eich prifysgol neu goleg.
Os na fydd modd cysylltu â chi gydag e-bost neu neges destun neu dros y ffôn, efallai y byddwn yn ceisio atebion ar gyfer yr arolwg gan drydydd parti, megis aelod o'r teulu sy'n ateb y ffôn. Os bydd rhywun arall yn cwblhau'r arolwg ar eich rhan ond byddai'n well gennych ddarparu eich atebion eich hun, bydd dal modd i chi gwblhau'r arolwg dros eich hunan gan ysgrifennu dros atebion y trydydd parti. Cysylltwch ag [email protected] os hoffech gwblhau eich arolwg eich hun yn lle ymateb trydydd parti.
Cynhelir yr arolwg Hynt Graddedigion gan HESA ar ran cyrff cyllido a rheoleiddio addysg uwch yn y DU, gan weithio gyda'ch prifysgol neu goleg.
- E-bost: Bydd yr arolwg yn cael ei e-bostio atoch – bydd yr e-bost yn dod o Hynt Graddedigion gydag enw eich prifysgol neu goleg yn y cyfeiriad e-bost. Bydd yr e-byst hyn yn cynnwys dolen i'r arolwg ar-lein. Er enghraifft, bydd graddedigion yn derbyn e-bost gan: [enw'r darparwr] @graduateoutcomes.ac.uk.
- Negeseuon testun: Cewch negeseuon testun i’ch atgoffa oddi wrth 'GradOutcome'. Bydd y negeseuon testun hyn yn cynnwys dolen i'r arolwg ar-lein.
- Ffôn: Os byddwch yn derbyn galwad ffôn ynglŷn â'r arolwg, IFF Research bydd yn eich ffonio. Mae IFF Research wedi ei benodi i geisio atebion i'r arolwg dros y ffôn. Byddant yn cyflwyno eu hunain gan ddweud eu bod yn galw ar ran eich prifysgol/coleg.
Dylech gymryd tua deg munud i gwblhau'r arolwg ar-lein neu ychydig yn hirach i'w gwblhau dros y ffôn.
Bydd eich prifysgol/coleg yn anfon ymlaen eich manylion cyswllt i ni mewn modd diogel at yr unig bwrpas o weinyddu’r arolwg Hynt Graddedigion. Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw sicrhau bod gan eich prifysgol/coleg fanylion cyswllt cywir ar eich cyfer – yn enwedig cyfeiriad e-bost a rhif ffôn dilys. Bydd modd i chi wneud hyn ar unrhyw adeg hyd at wythnos cyn i’r arolwg gau. Yna, sicrhewch eich bod yn ymateb i'r e-bost gwahoddiad arolwg cyn gynted ag y byddwch yn ei dderbyn.
Mae eich prifysgol/coleg yn cydweithio'n weithredol â HESA i gynnal yr arolwg Hynt Graddedigion. Fel rhan o'r gwaith paratoi, mae eich prifysgol/coleg wedi darparu'r manylion cyswllt sydd ganddynt ar eich cyfer i HESA at yr unig bwrpas o weinyddu’r arolwg Hynt Graddedigion – neu bydd yn gwneud hyn. Bydd angen i'ch prifysgol/coleg ddweud wrthoch chi ar wahân ynghylch unrhyw ddefnydd arall o'ch manylion cyswllt.
Pryd byddwch yn derbyn eich gwahoddiad arolwg yn cael ei bennu gan y mis y gwnaethoch raddio. Mae'n ofynnol arnom fod yr holl raddedigion yn cwblhau'r arolwg tua 15 mis ar ôl iddynt gwblhau eu hastudiaethau, felly nid oes modd i ni newid yr amserlen hon neu y bydd yn arwain at ganlyniadau anghyson. Cyfeiriwch at ‘Pryd byddaf yn derbyn yr arolwg?’ i ddarganfod pryd y byddwch yn derbyn eich gwahoddiad. Bydd gennych 12 wythnos i gwblhau'r arolwg ar ôl i chi dderbyn eich gwahoddiad e-bost cyntaf.
Mae hwn yn fesur diogelwch ychwanegol rydym wedi'i roi ar waith er mwyn diogelu eich ymatebion rhannol i'r arolwg. Os ydych yn dymuno diwygio'r wybodaeth a gyflwynwyd gennych yn flaenorol, cysylltwch â [email protected] a byddwn yn cysylltu â chi i drefnu hyn.
Mae canlyniadau lefel genedlaethol wedi'u rhyddhau fel ystadegau swyddogol gan HESA a gellir eu gweld yn llawn ar wefan HESA. Rydym hefyd wedi rhannu ciplun o rai o’r ystadegau hyn ar ein tudalen canlyniadau arolwg er mwyn eich helpu i ddeall sut mae eich cyfranogiad yn helpu i greu darlun o lwyddiant graddedigion sy’n gallu cefnogi dyfodol addysg uwch.
Bydd gan eich prifysgol / coleg hefyd gyfres o ddata ar gyfer ei raddedigion ei hun y gallant ei defnyddio i werthuso a hyrwyddo ei gyrsiau.
Preifatrwydd a diogelu data
Bydd eich ymatebion yn cael eu defnyddio gan eich prifysgol / coleg, gan gyrff ariannu a rheoleiddio addysg uwch, a chan rai sefydliadau eraill at ddibenion ymchwil ac ystadegol yn bennaf, ond hefyd wrth gyflawni tasg a wnaed er budd y cyhoedd neu wrth gyflawni awdurdod swyddogol. Ni ddefnyddir eich atebion unigol i wneud penderfyniadau amdanoch chi.
Gallwch weld rhai o'r ystadegau ar ein tudalen canlyniadau ein harolwg.
Yn yr e-bost sy'n cynnwys y gwahoddiad arolwg, byddwn yn darparu dolen sy'n cysylltu â thudalen gwybodaeth am breifatrwydd ar y wefan hon, sy'n rhannu gwybodaeth fanwl am sut bydd eich data yn cael ei brosesu, pwy fydd yn ei dderbyn, ac at ba ddiben y byddant yn ei ddefnyddio. Darllenwch fwy ynglŷn â'ch preifatrwydd »
Nid oes rhaid ichi gwblhau'r arolwg ond rydym yn gobeithio eich bod yn deall pa mor fuddiol bydd eich cyfraniad at addysg yn y dyfodol. I optio allan, defnyddiwch y ddolen optio allan yn nhroedyn y gwahoddiad e-bost, neu e-bostiwch [email protected] gyda'r cyfarwyddyd hwn, neu rhowch wybod i ni pan fyddwn yn eich ffonio. Gallwch hefyd wneud cais am optio allan o’r arolwg drwy gysylltu â’ch prifysgol / coleg yn uniongyrchol.
Os hoffech gael eich eithrio rhag unrhyw negeseuon pellach gan eich prifysgol / coleg, bydd yn rhaid i chi wneud hyn drwy gysylltu'n uniongyrchol â'ch prifysgol / coleg.
Bydd y manylion cyswllt y mae eich prifysgol/coleg yn cadw ar eich cyfer ond yn cael eu defnyddio gan HESA i anfon yr arolwg Hynt Graddedigion atoch. Bydd angen i’ch prifysgol/coleg ddweud wrthoch chi ar wahân ynglŷn ag unrhyw ddefnydd arall o'ch manylion cyswllt. Darllenwch fwy ynglŷn â'ch preifatrwydd »
Mae HESA yn trin diogelwch gwybodaeth yn ddifrifol iawn ac mae'n ymrwymedig i gadw'ch data yn ddiogel. Mae HESA yn ardystiedig i'r safon ryngwladol ISO27001 ar gyfer rheoli diogelwch gwybodaeth, a safon Cyber Essentials PLUS y DU ar gyfer seiberddiogelwch. Mae HESA yn ymgymryd â monitro manwl a phrofion hacio o’r systemau a ddefnyddir i gynnal yr arolwg Hynt Graddedigion er mwyn cadw'ch holl wybodaeth yn ddiogel.
Mwy o wybodaeth
Cynhelir yr arolwg gan yr HESA, rhan o Jisc, i helpu prifysgolion a cholegau (darparwyr addysg uwch) i gyflawni eu gofynion cyfreithiol i adrodd ar ganlyniadau addysg uwch i gyrff cyllido a rheoleiddio addysg uwch. Mae'r cyrff cyllido a rheoleiddio yn comisiynu'r arolwg Hynt Graddedigion ac yn mynnu bod HESA a darparwyr addysg uwch yn cydweithio i gynnal yr arolwg.
Bydd eich prifysgol / coleg yn darparu mwy o wybodaeth ynglŷn â'r arolwg i chi ychydig cyn i chi dderbyn gwahoddiad i'w gwblhau. Gallwch hefyd ddysgu mwy amdano ar y wefan hon a gallwch gymryd rhan yn y ddeialog ar Twitter, LinkedIn, Facebook a Instagram
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am HESA a diogelu data, ewch i’r adran diogelu data ar wefan HESA neu cysylltwch â Swyddog Diogelu Data HESA: E-bost: [email protected] Ffôn: 01242 388 513 Cyfeiriad: HESA, Clockwise, Festival House, Jessop Avenue, Cheltenham, GL50 3SH. Darllenwch fwy ynglŷn â'ch preifatrwydd »
Mae’r arolwg Hynt Graddedigion yn ymchwil hanfodol sy’n cael dylanwad ar ddyfodol addysg uwch. Drwy alluogi gweithio o bell, gallwn barhau i arolygu graddedigion a darparu’r arolwg yn ystod y cyfnod hwn.
Mae’r tîm Hynt Graddedigion a HESA am atgoffa pawb sy’n cymryd rhan yn yr arolwg nawr ac yn y dyfodol i gael y canllawiau diweddaraf trwy fynd i wefannau’r llywodraeth a’r GIG.
Ymuno â'r ddeialog
Mae'n hanfodol ein bod yn derbyn ymateb gan raddfa uchel o raddedigion er mwyn sicrhau bod y canlyniadau yn gynrychiadol. Byddem yn hoffi cael eich cefnogaeth wrth ledaenu'r neges ymysg eich cyd-raddedigion. Ar y dudalen hon, byddwch yn dod o hyd i ddeunyddiau y gallwch eu defnyddio ar eich hoff sianeli cyfryngau cymdeithasol er mwyn ein helpu i ledaenu'r neges.