Hynt Graddedigion yw arolwg cymdeithasol blynyddol mwyaf y DU ac mae'n cofnodi safbwyntiau a statws cyfredol graddedigion diweddar.
Gofynnir i'r holl raddedigion sydd wedi cwblhau cwrs yn y DU ar ôl mis Awst 2017 gymryd rhan yn yr arolwg 15 mis ar ôl iddynt orffen eu hastudiaethau. Nod yr arolwg yw helpu myfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol i gael mewnwelediad i gyrchfannau gyrfa a datblygu.
Mae nifer o gwestiynau craidd y gofynnir i'r holl raddedigion. Mae'r rhain yn amrywio o gwestiynau ynglŷn â statws presennol i a ydynt yn credu eu bod ar y llwybr cywir ar gyfer eu gyrfa. Yn ogystal, mae darparwyr yn gallu dethol o nifer o gasgliadau o gwestiynau, y byddent yn cael eu gofyn i'w graddedigion hwy yn unig.
Bydd yr holl raddedigion sydd wedi cwblhau cwrs addysg uwch mewn darpariaeth addysg uwch yn y DU ar ôl mis Awst 2017 yn gymwys ar gyfer cwblhau'r arolwg. Gallai hyn fod yn gwrs o unrhyw fath neu hyd.
Bydd graddedigion yn cael eu grwpio i mewn i bedair carfan ar draws y flwyddyn a bydd y rhain yn seiliedig ar y mis graddio. Yn ddibynnol ar bryd y gwnaeth unigolion raddio, byddant yn derbyn eu gwahoddiad arolwg tua 15 mis yn ddiweddarach. Er enghraifft, os daeth eu cwrs i ben rhwng Mai a Gorffennaf 2023, byddant yn derbyn yr arolwg ym mis Medi 2024.
Bydd y data Hynt Graddedigion yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amrediad o ddibenion gwybodaeth a rheoleiddio. Mae'r hysbysiad preifatrwydd (Darllenwch fwy ynglŷn â phreifatrwydd ») yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â defnyddiau’r data, megis ei ddefnydd gan ddarparwyr addysg uwch a chyrff ariannu a rheoleiddio addysg uwch, ei gynhwysiad oddi fewn ystadegau swyddogol, a defnyddiau ymchwil a newyddiadurol, gan gynnwys tablau cynghrair prifysgolion.
Defnyddir y canlyniadau gan y grwpiau hyn at ddibenion ymchwil ac ystadegol yn bennaf, ond hefyd wrth gyflawni tasg a weithredir er budd y cyhoedd neu wrth gyflawni awdurdod swyddogol. Ni ddefnyddir y canlyniadau ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch unigolion.
Nid yw'r arolwg yn orfodol ond rydym yn gobeithio ein bod wedi rhannu digon o'r manteision i annog graddedigion i'w gwblhau.
Gall graddedigion optio allan cyn i ni ddechrau arolygu, neu yn ystod y broses, drwy e-bostio [email protected] gyda'r cyfarwyddyd hwn, neu drwy ddefnyddio'r ddolen optio allan yn nhroedyn y gwahoddiad e-bost, neu roi gwybod i ni pan fyddwn yn eu ffonio.
Fel dewis arall, gall graddedigion optio allan yn uniongyrchol drwy eu darparwr drwy ddweud yn benodol nad ydynt am i unrhyw un gysylltu â hwy ynghylch cymryd rhan yn Graduate Outcomes. Wedyn mae'n ofynnol i’r darparwr roi gwybod i HESA am y cais hwn.
Mae angen i’r arolwg Hynt Graddedigion fodloni targedau uchelgeisiol o ran cyfraddau ymateb er mwyn sicrhau bod gennym ddata o fanylder digonol y gellir ei ddefnyddio ar gyfer amrediad o ddibenion gwybodaeth a rheoleiddio. Mae gan bob aelod o staff darparwr rôl i’w chwarae wrth hyrwyddo'r arolwg. Ewch i'n tudalen adnoddau cyfathrebu ar wefan HESA i weld sut y gallwch gyfrannu.
Mae canlyniadau lefel genedlaethol wedi'u rhyddhau fel ystadegau swyddogol gan HESA. Rydym wedi rhannu ciplun o rai o’r ystadegau hyn ar ein tudalen canlyniadau arolwg, neu gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am gyhoeddiadau ystadegau Hynt Graddedigion ar wefan HESA.