Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r wefan Canlyniadau Graddedigion:
Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan HESA. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio ein gwefan. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech chi allu gwneud y canlynol:
- Newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau.
- Chwyddo hyd at 300% heb i'r testun symud oddi ar y sgrin.
- Llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
- Llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd.
- Gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA, VoiceOver a TalkBack).
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Yn gyffredinol, mae ein gwefan yn hygyrch mewn rhannau a dylai'r rhan fwyaf o gwsmeriaid allu defnyddio'r wefan. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol o rai materion a allai effeithio ar hygyrchedd rhai o'n defnyddwyr:
- Nid oes modd gweithredu acordionau gyda bysellfyrddau na'u cyhoeddi'n gywir gan ddarllenydd sgrin.
- Mae'r cyferbyniad lliw yn annigonol mewn mannau.
- Defnyddir lliw fel yr unig ffordd o wahaniaethu rhwng dolenni.
- Mae testun alt disgrifiadol ar goll o rai delweddau swyddogaethol.
- Nid oes unrhyw ddolen osgoi neidio i’r cynnwys.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes arnoch chi angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print mawr, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:
- e-bostiwch [email protected]
- ffoniwch +44 (0) 1242 388 513 [opsiwn 6]
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi mewn 15 diwrnod.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau heb eu rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydynt yn bodloni ein gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi'n hapus gyda sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cydraddoldeb, Cynghori a Chefnogi (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae HESA wedi ymrwymo i wneud y wefan Canlyniadau Graddedigion yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon fersiwn 2.1 AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau, oherwydd ‘y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau’ a restrir isod.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol. Ar hyn o bryd rydym yn adolygu'r holl achosion hyn o ddiffyg cydymffurfio ac yn datblygu map ffordd i ddatrys y materion hyn. Cyhoeddir y map ffordd hwn erbyn mis Awst 2021, a bydd yn rhoi mwy o fanylion ynghylch pryd bydd y materion hyn yn cael eu datrys.
Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Dyluniad tudalen
Mae testun alt disgrifiadol ar goll o ddelweddau swyddogaethol a gwybodaeth felly efallai na fydd defnyddwyr darllenydd sgrin yn gallu dirnad pwrpas y delweddau hyn neu swyddogaeth dolen pan ddefnyddir delwedd fel elfen ryngweithiol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 1.1.1 (Cynnwys Heblaw Testun).
Dim ond drwy newid lliw mae rhai dolenni’n amlwg a gall fod yn amhosibl ei ddeall i bobl â nam ar eu golwg neu ddallineb lliwiau. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 1.4.1 (Defnyddio Lliw).
Mae’r cyferbyniad lliw yn annigonol mewn mannau sy'n ei gwneud yn anodd i rai pobl ddarllen cynnwys ar ein gwefan. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 1.4.3 (Cyferbyniad (Isafswm)).
Mae rhai delweddau'n cynnwys testun na ellir newid ei gyflwyniad i weddu i anghenion ein defnyddwyr. Gall hyn ei gwneud yn anodd i rai defnyddwyr ganfod y testun yn y delweddau hyn. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 1.4.5 (Delweddau o'r Testun).
Strwythur y dudalen
Nid yw’r elfennau pennawd yn cael eu defnyddio'n gywir bob amser, a all ei gwneud yn anodd i rai defnyddwyr ganfod strwythur y dudalen we. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 1.3.1 (Gwybodaeth a pherthnasoedd).
Nid oes tirnodau ‘prif’ dudalen ARIA ar ein gwefan, a all ei gwneud yn anodd i rai defnyddwyr ddirnad strwythur y dudalen we. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 1.3.1 (Gwybodaeth a pherthnasoedd).
Nid yw acordionau’n cael eu gweithredu’n gywir felly nid oes modd eu gweithredu gyda bysellfwrdd ac nid ydynt yn cael eu cyhoeddi'n gywir gan ddarllenydd sgrin. Mae hyn yn golygu y bydd defnyddwyr â golwg, defnyddwyr bysellfwrdd a defnyddwyr darllenydd sgrin, dall yn ei chael yn anodd canfod yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr acordionau. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1.1 (Bysellfwrdd) a 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth).
Llywio, dolenni a botymau
Ar hyn o bryd nid oes gallu i osgoi blociau llywio ailadroddus gyda dolen ‘neidio i’r cynnwys’. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.4.1 (Blociau osgoi).
Ar hyn o bryd mae'r polisi cwcis yn olaf yn y drefn ffocws sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddwyr dabio drwy'r holl gynnwys ar y dudalen cyn gallant ei ddiystyru. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.3 (Trefn Ffocws).
Yn Mozilla Firefox, mae'r dangosydd ffocws yn wan iawn a gall fod yn anodd ei ddeall i rai defnyddwyr. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr bysellfwrdd nodi pa ran o'r wefan sy'n weithredol ac mae’n methu maen prawf llwyddiant 2.4.7 WCAG 2.1 (ffocws yn weladwy).
Ar ddyfeisiau symudol, nid oes gan y ddewislen hambyrgyr label rhaglennol felly fe'i cyhoeddir mewn ffordd ddiystyr gan ddarllenydd sgrin. O ganlyniad, efallai na fydd defnyddwyr dall yn deall sut i ryngweithio â'r elfen hon ar y dudalen, sy'n methu maen prawf llwyddiant WCAG 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth).
PDFs
Nid yw rhai o’n PDFs yn cydymffurfio â WCAG 2.1 i Lefel A ac AA a all ei gwneud yn anodd i rai o’n defnyddwyr gael mynediad. Er enghraifft:
- Ar hyn o bryd nid ydyn nhw'n defnyddio'r strwythur pennawd cywir, sy'n ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr darllenydd sgrin lywio'r ddogfen. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd).
- Mae teitlau dogfennau ar goll o rai PDFs, a all ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr darllenydd sgrin ganfod cynnwys y ddogfen yn gyflym. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.4.2 (Penawdau a labeli).
- Mae cyferbyniad lliw y dolenni yn y PDFs yn annigonol felly gall defnyddwyr â golwg rhannol neu ddallineb lliwiau gael anhawster darllen y ddolen. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 1.4.3 (Cyferbyniad (Isafswm)).
Dosrannu
Pan gaiff yr hafan ei rhedeg drwy ddilyswr HTML W3C tynnir sylw at nifer o wallau a rhybuddion gyda’r html a all effeithio ar sut mae’r dechnoleg gynorthwyol yn rhyngweithio â’r wefan. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 4.1.1 (Dosrannu).
Cynnwys nad yw yng nghwmpas y rheoliadau hygyrchedd
PDFs a dogfennau eraill
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn gofyn i ni gywiro PDFs na dogfennau eraill sydd wedi’u cyhoeddi cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.
Bydd unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd y byddwn yn eu cyhoeddi’n bodloni’r safonau hygyrchedd.
Fideos
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn gofyn i ni ychwanegu sain ddisgrifiad at fideos sydd wedi’u cyhoeddi cyn 23 Medi 2020.
Bydd unrhyw fideos newydd yn cael eu datblygu i fodloni safonau hygyrchedd.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 24 Mehefin 2021. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 14 Mehefin 2021.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 5 Mai 2021. Cafodd y wefan ei phrofi am gydymffurfiaeth â’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau V2.1 lefel A a lefel AA, a chynhaliwyd y prawf gan Web Usability Partnership Cyf.
Defnyddiwyd dull Methodoleg Gwerthuso Cydymffurfiaeth Hygyrchedd Gwefannau (WCAG-EM) gennym i benderfynu ar sampl o dudalennau i'w profi.