A wnaethoch chi edrych ar dablau cynghrair, ‘The Guardian University Guide’ neu ‘Prospects Career Guides’ i'ch helpu i ddewis ble a beth i'w astudio? Pe baech yn gwneud hynny, yna byddai data Hynt Graddedigion wedi eich helpu i gyrraedd lle rydych chi heddiw.
Tua 15 mis ar ôl i chi orffen eich cwrs, byddwch yn derbyn e-bost yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn Hynt Graddedigion. Bydd yn cymryd llai na 10 munud i'w gwblhau a bydd yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar addysg uwch i'r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr.
Mae rhannu eich safbwyntiau a'ch canlyniadau yn adeiladu darlun cenedlaethol y mae prifysgolion a cholegau y DU yn ei ddefnyddio i arloesi eu gwasanaethau.