Ynglŷn â'r arolwg

Llunio'r dyfodol. Miloedd o leisiau graddedig. Un arolwg.


Mae Hynt Graddedigion wedi'i adeiladu ar gyfer y newidwyr. 

Mae HESA yn gweithio gyda phrifysgolion a cholegau'r DU i alluogi'r holl raddedigion i leisio eu barn, gan ddefnyddio ein harolwg Hynt Graddedigion i rannu safbwyntiau. Drwy ein harbenigedd casglu a dadansoddi data, rydym yn datgelu'r darlun ehangach o'r llwybrau gyrfa a'r cyfleoedd a gymerwyd gan raddedigion diweddar, i yrru arloesedd mewn addysg uwch.

Data gan raddedigion heddiw, yn grymuso myfyrwyr yfory.

Gofynnir i'r holl raddedigion sydd wedi cwblhau cwrs addysg uwch yn y DU ar ôl mis Awst 2017 gymryd rhan yn yr arolwg 15 mis ar ôl iddynt orffen eu hastudiaethau.

Mae'r arolwg eisiau canfod p’un a ydych mewn cyflogaeth, wedi parhau ag astudiaethau pellach neu'n gwneud rhywbeth arall, ac i ba raddau y gwnaeth eich cymhwyster helpu. Mae'r term 'canlyniadau' yn ein harolwg yn allweddol – rydym am gael mewnwelediad er mwyn gweld a oedd y profiad y cawsoch fel myfyriwr yr un fath â'r hyn a addawyd i chi, o safbwynt dysgu a chyflogaeth bosib. Nid ydym yn disgwyl i bob llwybr neu gyrchfan fod yn hawdd iawn.

Nid eich prifysgol neu goleg yn unig sy'n gwrando arnoch – mae gan yr arolwg arwyddocâd cenedlaethol ar raddfa fawr hefyd.  Mae o fudd i'r llywodraeth, elusennau, newyddiadurwyr, ymchwilwyr ac eraill wrth eu helpu i ddeall y sector addysg uwch a chyflwr y farchnad lafur i raddedigion.

Gwyliwch ein fideo i ddysgu mwy...


Dywedwch wrthym am fywyd ar ôl addysg uwch

Mae Hynt Graddedigion yn unigryw am ei fod yn cysylltu â chi mwy na blwyddyn (15 mis) ar ôl i chi orffen eich astudiaethau. Credwn fod hyn yn rhoi amser i chi ystyried gwerth eich astudiaethau yn eich gweithgareddau cyfredol, sut mae hyn yn cymharu â'ch cynlluniau gwreiddiol, a sut rydych yn defnyddio sgiliau y cawsoch yn ystod eich cyfnod mewn addysg.

Chi yw'r unig un sy'n gwybod a wnaethoch adael addysg â'r sgiliau a gwybodaeth angenrheidiol i gyrraedd eich lleoliad presennol. Rydym hefyd yn awyddus i ddeall y llwybrau anhraddodiadol y mae graddedigion yn eu cymryd ar ôl cwblhau eu haddysg. Nid cyflogaeth yw'r unig ganlyniad llwyddiannus: rydym am wybod am yr hyn yr ydych yn ei wneud, gan ddeall yn iawn yr hyn yr ydych yn ei ystyried yn foddhaus.

Hanes yn gryno

Caiff yr arolwg ei ddarparu gan HESA (yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch). Mae HESA wedi darparu arolygon graddedigion ers 1994/95 a elwid yn Gyrchfannau Myfyrwyr sy'n Gadael Addysg Uwch. Roedd Cyrchfannau Myfyrwyr sy'n Gadael Addysg Uwch yn casglu 'cyrchfannau' (yr hyn a wnaeth graddedigion ar ôl gadael addysg) miliynau o raddedigion dros y blynyddoedd. Yn 2016, cynhaliwyd adolygiad llawn gan HESA ac, o ganlyniad, crëwyd yr arolwg Hynt Graddedigion.

Mae'r arolwg newydd hwn yn caniatáu cyfnod hirach rhwng eich astudiaethau a'r arolwg ac mae'n darparu mewnwelediad cyfoethocach trwy gwestiynau sy'n fwy ystyrlon ond goddrychol. Mae'n gofyn i chi nodi ffeithiau am eich lleoliad a'r hyn yr ydych yn ei wneud, ond mae'r arolwg hefyd yn gofyn i chi fyfyrio ar sut y mae addysg wedi cyfrannu at eich sefyllfa bresennol.

Gadewch i ni fod yn real
HESA, part of Jisc