Sut bydd eich atebion yn cadw prifysgolion yn atebol
Darganfyddwch sut mae data o arolwg Hynt Graddedigion yn cael ei ddefnyddio gan yr y Swyddfa Fyfyrwyr i reoleiddio addysg uwch, monitro canlyniadau myfyrwyr, a helpu darpar fyfyrwyr i wneud penderfyniadau mwy gwybodus ynghylch cyrsiau prifysgol a choleg.
Pan gewch eich gwahodd i ateb arolwg Hynt Graddedigion tua 15 mis ar ôl gorffen eich cwrs, gallech feddwl tybed a wnaiff eich ymateb wahaniaeth mewn gwirionedd.
Fel y rheoleiddiwr annibynnol dros addysg uwch yn Lloegr, bydd y Swyddfa Fyfyrwyr yn defnyddio data Hynt Graddedigion fel rhan o'r dystiolaeth sy'n ein helpu i asesu pa mor dda y mae prifysgolion a cholegau yn paratoi myfyrwyr at fywyd ar ôl addysg uwch.
Mae eich ymateb yn wirioneddol bwysig
Ni fydd pob unigolyn graddedig yn dilyn yr un llwybr. Bydd rhai yn symud yn syth i gyflogaeth, bydd eraill yn parhau i astudio, yn lansio busnesau, yn dechrau gyrfaoedd creadigol, yn ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu neu'n mynd ar drywydd cyfleoedd nad ydynt yn cyd-fynd â diffiniadau traddodiadol datblygiad gyrfa. Pan fydd ystod eang o raddedigion yn ymateb i'r arolwg, bydd myfyrwyr y dyfodol yn cael dealltwriaeth gywirach o'r nifer o lwybrau gwahanol sydd ar gael ar ôl addysg uwch
Os na fydd neb ond graddedigion â phrofiadau penodol yn ymateb, bydd y darlun yn anghyflawn. Er mwyn rheoleiddio'n effeithiol, mae angen data arnom sy'n adlewyrchu realiti bywyd graddedigion, nid un fersiwn yn unig o lwyddiant.
Sut bydd y Swyddfa Fyfyrwyr yn defnyddio eich atebion
Gall addysg uwch agor llawer o gyfleoedd gwahanol, ac nid oes un diffiniad o ganlyniad llwyddiannus ar ôl graddio. Mae arolwg Hynt Graddedigion yn ein helpu i ddeall yr amrywiaeth eang o gyfeiriadau y bydd graddedigion yn eu dilyn a sut yn eu tyb hwy y mae eu hastudiaethau wedi cyfrannu at ble maent heddiw.
Mae hyn yn bwysig oherwydd ni ddylai rheoleiddio ganolbwyntio ar yr hyn sy'n digwydd tra bydd myfyriwr yn astudio yn unig. Rydych chi wedi buddsoddi amser, ymdrech ac arian sylweddol yn eich addysg, ac rydych yn haeddu hyder y gwnaiff eich cwrs gynorthwyo i sicrhau cynnydd tuag at eich nodau. Mae data Hynt Graddedigion yn ein helpu i ddeall a yw darparwyr addysg uwch yn cyflawni Hynt cadarnhaol i'w myfyrwyr ac a oes gwahaniaethau rhwng sefydliadau, cyrsiau a grwpiau o fyfyrwyr.
Mae'r data'n cyfrannu at rai o fetrigau rheoleiddio'r Swyddfa Fyfyrwyr ac yn rhan o'r dystiolaeth a ddefnyddiwn i nodi patrymau, tueddiadau a meysydd a allai beri pryder ar draws y sector.
Yn syml, bydd eich ymateb yn ein helpu i fynnu bod y sector addysg uwch yn atebol a sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwerth o'u haddysg.
(Os gwnaethoch chi astudio mewn man arall yn y DU, bydd y data hefyd yn cael eu defnyddio mewn ffordd debyg gan y sefydliadau sy'n gyfrifol am oruchwylio a gwella addysg uwch yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.)
Sut bydd eich ymateb yn helpu myfyrwyr y dyfodol
Mae data Hynt Graddedigion hefyd yn cyfrannu at wasanaethau gwybodaeth megis Darganfod Prifysgol (y ffynhonnell swyddogol o wybodaeth am gyrsiau a darparwyr addysg uwch sy'n cael ei goruchwylio gan y Swyddfa Fyfyrwyr), gan helpu darpar fyfyrwyr i ddeall beth aeth cyn-fyfyrwyr ati i'w wneud ar ôl astudio cwrs.
Defnyddir y data hefyd gan brifysgolion a cholegau i ddeall Hynt eu graddedigion yn well a nodi cyfleoedd i wella. Mae'n helpu ymchwilwyr, llunwyr polisïau a chyrff rheoleiddio i lunio darlun eglurach o'r sector addysg uwch a sut mae'n newid dros amser.
Mae hynny'n golygu na fydd eich ymateb yn helpu'r Swyddfa Fyfyrwyr yn unig. Bydd yn helpu myfyrwyr y dyfodol i wneud penderfyniadau mwy cytbwys ynghylch ble ddylent astudio a beth ddylent ei astudio.
Atebwch yr arolwg pan fydd yn cyrraedd eich mewnflwch
Pan gewch eich gwahoddiad i ateb arolwg Hynt Graddedigion, rydym yn eich annog i gyfranogi.
Bydd angen tua 10 munud i'w ateb a bydd yn ein helpu i adeiladu'r dystiolaeth a ddefnyddiwn i fynnu bod prifysgolion a cholegau yn atebol am y Hynt y byddant yn eu cyflawni, nodi ble gallai fod yn ofynnol i fyfyrwyr gael cymorth gwell, a sicrhau bod myfyrwyr y dyfodol yn cael gwybodaeth ddibynadwy wrth wneud penderfyniadau sy'n newid bywydau.
Mae eich profiad yn bwysig. Trwy rannu hynny, byddwch yn ein helpu ni i sicrhau bod addysg uwch yn cyflawni ar gyfer myfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol.