Neidio i'r prif gynnwys

Tablau cynghrair prifysgolion

Mae data Hynt Graddedigion yn helpu myfyrwyr y presennol a'r dyfodol i wneud penderfyniadau ar eu llwybrau gyrfa - a daw hyn yn wir yn Darganfod Prifysgol.

Mae'n defnyddio data o'r arolwg Hynt Graddedigion i helpu myfyrwyr y dyfodol i wneud dewisiadau am gyrsiau a darparwyr.

Gall tablau cynghrair, fel y Complete University Guide, Guardian University Guide a Good University Guide, roi darlun cyffredinol da o berfformiad ac ansawdd prifysgol. Trwy edrych ar ffactorau fel safonau mynediad, boddhad myfyrwyr a rhagolygon graddedigion, mae myfyrwyr y dyfodol yn cael dealltwriaeth glir o sut mae gwahanol brifysgolion yn cymharu. Mae hyn yn eu helpu i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch ble i astudio.

Mae tablau cynghrair yn rhestru mwy na 100 o brifysgolion y DU bob blwyddyn gan ddefnyddio data sydd ar gael yn gyhoeddus.

O ble mae data’r tablau cynghrair yn dod?

Mae casglwyr tablau cynghrair yn cymryd llawer o ffactorau i ystyriaeth wrth gyfrifo sgoriau prifysgolion ac yn dibynnu ar ffynonellau data allanol dibynadwy. Mae'r ffynonellau hyn yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS), y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) a HESA, gan gynnwys data o'r arolwg Hynt Graddedigion.

Pa ddata Hynt Graddedigion a ddefnyddir?

Hynt Graddedigion yw'r data mwyaf cyflawn sydd ar gael ar y farchnad lafur ar gyfer graddedigion o ddarparwyr addysg uwch. Oherwydd hyn, mae'n ffynhonnell ddata hanfodol i asesu i ba raddau y mae myfyrwyr wedi cymryd cam cyntaf cadarnhaol yn y 15 mis ar ôl graddio.

Mae tablau cynghrair yn defnyddio gwahanol fesuriadau ond gallant gynnwys:

  • yr hyn y mae graddedigion yn ei wneud ar hyn o bryd (gweithio a /neu astudio pellach)
  • a yw graddedigion yn mynd i mewn i alwedigaeth lefel raddedig (gan ddefnyddio codau SOC)
  • a yw graddedigion yn mynd ymlaen i astudio ymhellach ar lefel broffesiynol neu addysg uwch
  • eu canfyddiadau o waith ar ôl cwblhau eu cwrs, gan gynnwys myfyrio ar sut maen nhw'n symud ymlaen tuag at eu nodau yn y dyfodol.

Wnaethoch chi ddefnyddio tabl cynghrair i'ch helpu i ddewis ble a beth i'w astudio?

Os gwnaethoch hynny, yna byddai data Hynt Graddedigion wedi eich helpu i gyrraedd lle rydych chi heddiw. Gwnewch yr arolwg pan fydd yr amser yn iawn a helpwch ddarpar fyfyrwyr i wneud penderfyniadau am eu dyfodol.

Ewch i'r Complete University Guide, Guardian University Guide, Good University Guide (wal dalu) The Times a Sunday Times i gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r tablau cynghrair yn cael eu creu.