Neidio i'r prif gynnwys

Polisi cwcis

Mae gwefan Hynt Graddedigion yn rhoi ffeiliau bach, a adwaenir fel 'cwcis', ar eich cyfrifiadur. Gallwch ddarllen mwy am y gwahanol fathau o gwcis rydyn ni’n eu defnyddio ar y dudalen hon.

Beth yw cwcis?

Mae cwci yn ddarn bach o ddata (ffeil testun) y mae gwefan - pan fydd defnyddiwr yn ymweld â hi - yn gofyn i'ch porwr ei storio ar eich dyfais er mwyn cofio gwybodaeth amdanoch chi, fel eich dewis iaith neu wybodaeth mewngofnodi. Mae'r cwcis hynny yn cael eu gosod gennym ac fe'u gelwir yn gwcis parti cyntaf. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis trydydd parti – sef cwcis o barth gwahanol i barth y wefan rydych yn ymweld â hi – ar gyfer ein hymdrechion hysbysebu a marchnata. Yn fwy penodol, rydym yn defnyddio cwcis a thechnolegau olrhain eraill at y dibenion canlynol:

Cwcis Hollol Angenrheidiol

Mae'r cwcis hyn yn hanfodol er mwyn i'r wefan weithredu ac ni ellir eu diffodd o fewn ein systemau. Maent ond yn cael eu gosod fel arfer os byddwch yn gwneud rhywbeth yr ystyrir ei fod yn gais am wasanaethau, megis gosod eich dewisiadau preifatrwydd, mewngofnodi neu lenwi ffurflenni. Gallwch osod eich porwr i'ch rhwystro neu eich rhybuddio ynglŷn â'r cwcis hyn, ond ni fydd rhai rhannau o'r wefan yn gweithio wedyn. Nid yw'r cwcis hyn yn storio unrhyw wybodaeth sy’n gallu eich adnabod yn bersonol.

Cwcis Cwcis a ddefnyddiwyd
CookieControl First party
__cf_bm, cf_clearance First party

Cwcis Dadansoddeg

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni gyfrif ymweliadau â'r wefan ac o ble mae pobl wedi dod. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i fesur a gwella perfformiad ein gwefan. Mae'r cwcis dadansoddeg yn ein helpu i ddeall mwy am y wefan, pa dudalennau sy'n boblogaidd a sut rydych yn symud o amgylch y wefan. Mae'r holl wybodaeth y mae'r cwcis hyn yn ei chasglu wedi’i chyfuno ac felly'n anhysbys. Os na fyddwch yn caniatáu’r cwcis hyn, ni fyddwn yn gwybod pryd rydych wedi ymweld â’n gwefan ac ni fyddwn yn gallu monitro ei pherfformiad chwaith.

Cwcis Cwcis a ddefnyddiwyd
_ga, _ga*, _gid, _gat First party

Sut i reoli cwcis

Mae'r rhan fwyaf o borwyr yn caniatáu i chi reoli’r cwcis sydd wedi'u cadw ar eich dyfais - y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw mynd i adran help eich porwr.