Hynt Graddedigion sy'n ennill y dyfarniad uchaf o ran ansawdd data
Trwy arbenigedd casglu a dadansoddi data, mae data arolwg Hynt Graddedigion yn datgelu'r darlun ehangach o'r llwybrau gyrfa a'r cyfleoedd a gymerwyd gan raddedigion diweddar. Ei nod - ysgogi arloesi mewn addysg uwch.
Un o'r ffyrdd y gallwn ddangos ansawdd y data hyn yw trwy gael achrediad gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR).
Chwe blynedd ar y gweill, mae'n bleser gennym gyhoeddi bod y data a'r ystadegau sy'n cael eu rhyddhau eleni (graddedigion o ddosbarth 2021/22) yn dangos nod barcud OSR o 'Ystadegau Swyddogol Achrededig' - y dyfarniad uchaf o ran ansawdd data.
Mae'r OSR yn darparu rheoleiddio annibynnol o'r holl ystadegau swyddogol a gynhyrchir yn y DU. Er mwyn cyrraedd y safon uchel sy'n ofynnol i gyrraedd statws Ystadegau Swyddogol Achrededig (a elwir yn Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007), rhaid i'r data a'r sefydliad sy'n eu cynhyrchu ddangos ymrwymiad i egwyddorion dibynadwyedd, ansawdd a gwerth.
Mae’r nod barcud hwn yn golygu y bydd graddedigion sy’n cwblhau’r arolwg yn gwybod bod HESA (sy’n cynhyrchu’r ystadegau) yn dangos ymrwymiad “rhagorol” i’r egwyddorion hyn. Gall defnyddwyr eraill y data hefyd fod yn sicr eu bod yn ddibynadwy at ddibenion cynllunio a gwneud penderfyniadau.
Meddai Jonathan Waller, Cyfarwyddwr Data ac Arloesi HESA:
“Gall defnyddwyr y data hyn deimlo’n hyderus eu bod yn cynrychioli un o’r ffynonellau gwybodaeth gorau am ganlyniadau astudio a’r farchnad lafur i raddedigion yn y DU a’u bod yn cymharu’n ffafriol iawn ag arolygon cyfatebol a gynhaliwyd unrhyw le yn y byd.”
Mae gan y data hyn rai defnyddiau pwerus iawn gan gynnwys rheoleiddio darparwyr addysg uwch, arloesi, ymchwil a llunio polisi. A wnaethoch chi ddefnyddio Discover Uni, y Guardian University Guide neu Prospects Career Guides i'ch helpu i ddewis ble a beth i'w astudio? Os gwnaethoch hynny, yna byddai data Hynt Graddedigion wedi eich helpu i gyrraedd lle rydych chi heddiw.
Os ydych i fod i gymryd yr arolwg Hynt Graddedigion eleni, rydym yn gobeithio bod hyn yn dangos ein hymrwymiad i ansawdd, gan ddefnyddio'ch data i rymuso myfyrwyr yfory.
Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd HESA yn cyhoeddi'r ystadegau diweddaraf o ddosbarth 2021/22 a byddwn yn rhannu detholiad ar ein tudalen canlyniadau arolwg. Darllenwch ragor am y cyflawniad hwn ac edrychwch ar yr adroddiad yn llawn ar wefan HESA.
