Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion

Croeso i wefan newydd Hynt Graddedigion!

Postiwyd ar: | Postiwyd gan: Tîm Hynt Graddedigion, Graduate Outcomes team

Rydym wedi rhoi adnewyddiad llwyr i wefan Hynt Graddedigion - ac rydym yn llawn cyffro i chi ei harchwilio.

Mae'r fersiwn newydd hon yn adlewyrchu hunaniaeth brand newydd yr arolwg yn llawn, a gyflwynwyd gyntaf ym mis Rhagfyr 2023, ac yn dod â phrofiad mwy modern, cynhwysol a hawdd ei ddefnyddio i bawb sy'n ymweld.

Wedi'i adeiladu ar eich cyfer chi, ble bynnag yr ydych chi

Mae'r wefan newydd yn symudol yn gyntaf, sy'n golygu ei bod yn gweithio'n hyfryd ar eich ffôn, tabled, neu liniadur - felly gallwch ymgysylltu a'r wefan ble bynnag y bydd bywyd yn mynd â chi.

Rydym wedi ychwanegu togl iaith di-dor rhwng Saesneg a Chymraeg, gan ei gwneud hi'n haws i gyrchu cynnwys yn eich dewis iaith.

Mae'r wefan wedi'i chynllunio i fod yn hygyrch ac yn gynhwysol, gan gynnig profiad llyfn i bawb, gan gynnwys y rhai sy'n defnyddio technolegau cynorthwyol - sy'n adlewyrchu ymrwymiad cryf Jisc i hygyrchedd.

Pam mae'n bwysig

Mae cwblhau arolwg Hynt Graddedigion yn gyfle i chi rannu sut olwg sydd ar fywyd ar ôl addysg uwch - eich swydd, eich astudiaethau, eich nodau, a'ch llesiant. Mae eich llais yn helpu i lunio dyfodol addysg uwch ac yn cefnogi'r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr.

Mae'r data rydych chi'n eu darparu yn bwerus: maen nhw'n helpu i lunio dyfodol addysg uwch, yn llywio polisi, yn gwella cymorth i fyfyrwyr, ac yn rhoi darlun cliriach i ddarpar fyfyrwyr o'r hyn sydd i'w ddisgwyl ar ôl graddio.

Os hoffech chi ein helpu ni i ledaenu'r gair drwy rannu eich profiad o'r arolwg, byddem wrth ein bodd yn eich cynnwys chi fel un o'n lleisiau graddedigion. Cysylltwch drwy communications@hesa.ac.uk neu anfonwch neges atom ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn ôl i'r mynegai