Datganiad hygyrchedd
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r wefan Hynt Graddedigion: cy.graduateoutcomes.ac.uk
Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Jisc. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais
- chwyddo i mewn hyd at 400% heb i'r testun arllwys oddi ar y sgrîn
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrîn (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:
- e-bost communications@hesa.ac.uk
- ffonio +44 (0)1242 388 513 [opsiwn 6]
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi.
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Jisc wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan wedi'i phrofi yn erbyn safon 2.2 AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG).
Mase'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys anhygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfiaeth â'r rheoliadau hygyrchedd
- Adolygu disgrifiadau tag alt ar gyfer delweddau. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.2 AA (cynnwys nad yw'n destun)
- Offer trydydd parti. Rydym wedi mewnosod fideos YouTube ar yr wefan. Rydym yn ymwybodol y gallai fod problemau hygyrchedd â'r nodwedd hon. Gan nad ydym yn rheoli'r platfform, ni allwn wneud newidiadau. Rydym wedi darparu trawsgrifiad a chapsiynau caeedig. Rhowch wybod i ni os hoffech chi fersiwn amgen.
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym wrthi'n cynnal archwiliad hygyrchedd i sicrhau bod ein cynnwys yn bodloni safonau cydymffurfio ac yn darparu profiad cynhwysol i bob defnyddiwr. Disgwylir i'r broses hon gael ei chwblhau erbyn 19 Medi 2025.
Pryd bynnag y caiff nodweddion newydd eu rhyddhau, mae'n rhaid iddynt fodloni safon WCAG 2.2 AA. Rydym hefyd wedi ymrwymo i weithio ar y materion uchod. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon pan fydd problemau wedi'u datrys.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 20 Awst 2025 yn erbyn safon WCAG 2.2 AA.
Mae'r profion yn cael eu cynnal gan dimau mewnol Jisc gan ddefnyddio amrywiaeth o offer awtomataidd (AXE, Lighthouse a WAVE) a phrofion â llaw. Mae sampl gynrychioliadol o dudalennau gwefan yn cael eu profi.
Addaswyd cynnwys o'r datganiad hygyrchedd GOV.UK - a ddefnyddir trwy'r Drwydded Llywodraeth Agored f3.0.