Ymchwil HESA

Cyflwynir yr arolwg Hynt Graddedigion gan HESA (Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch). Yn ogystal â chasglu eich ymatebion arolwg er mwyn cyhoeddi ystadegau swyddogol, rydym hefyd yn eu defnyddio i wneud ymchwil.

HESA

Mae ein hymchwil yn ceisio cefnogi datblygu polisïau sy'n gwella lles unigol a chyfunol darpar fyfyrwyr a graddedigion presennol.

Pa ystadegau swyddogol a gyhoeddir am raddedigion?

Bob blwyddyn, mae HESA yn rhyddhau ystadegau swyddogol o bob arolwg Hynt Graddedigion  blynyddol. Defnyddir yr ystadegau hyn gan y Llywodraeth, elusennau, newyddiadurwyr, ymchwilwyr ac eraill i ddeall y sector addysg uwch a chyflwr y farchnad lafur i raddedigion. Bydd eich prifysgol / coleg hefyd yn eu defnyddio i werthuso a hyrwyddo eu cyrsiau.

Rydym yn rhannu rhai prif ystadegau ar ein tudalen canlyniadau arolwg, ond os hoffech gloddio'n ddyfnach, ewch draw i wefan HESA.

Sut mae eich ymatebion i'r arolwg wedi cael eu defnyddio mewn ymchwil HESA?

Dyma rai o'r cwestiynau ymchwil rydym wedi bod yn eu gofyn yn ddiweddar a'r effaith hyd yma.

Ai'r arian yw'r cyfan?

Un o amcanion llunwyr polisi a darparwyr ledled y DU yw sicrhau bod pob unigolyn graddedig yn cael bywydau boddhaus. Gan ddefnyddio’r data a roddwch ar enillion, lles a’ch myfyrdodau ar y gweithgareddau rydych yn ymwneud â hwy, rydym wedi dangos mae enillion uwch yn cydberthyn â lles gwell hyd nes y byddwch yn cyrraedd cyflog o tua £24,000. Y tu hwnt i'r pwynt hwn, nid oes perthynas glir rhwng y ddau ffactor hyn.

Fodd bynnag, mae gwaith ystyrlon sy'n cyd-fynd â'ch dyheadau gyrfa ac sy'n defnyddio'ch sgiliau wedi'i gysylltu'n gadarnhaol â'ch lles.

Gall canfyddiadau o'r fath helpu i lywio dadleuon ynghylch pa fesurau y gellid eu defnyddio i helpu ac asesu a yw graddedigion yn cyflawni boddhad ar ôl astudio. Er enghraifft, fel y dengys yr erthygl isod, mae'r rhai sy'n gweithio mewn prifysgolion eisoes yn ystyried sut y gallent ddefnyddio'r data hyn i helpu pob myfyriwr i gyflawni ei nodau.​​

Ymchwil HESA: 'Gwerth mesur ansawdd swydd anariannol wrth archwilio canlyniadau graddedigion - Crynodeb'

Yr effaith: 'Nid oes angen i'r agenda gyflogadwyedd fod yn ddadleuol' - Times Higher Education


Sut mae creu cymdeithas fwy cyfartal?

Ffocws allweddol polisi cyhoeddus presennol yw sut i leihau’r lefelau anghydraddoldeb rhwng gwahanol rannau o’r wlad. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod cysylltiad cadarnhaol rhwng cyfran y graddedigion mewn ardal a chynhyrchiant a ffyniant.

Yn ddiweddar, rydym wedi defnyddio eich ymatebion ar eich lleoliad gwaith i ddangos pa ardaloedd sy'n profi all-lif net o raddedigion. Defnyddiwyd yr ymchwil hwn mewn gwaith ar y cyd rhwng academyddion a chynghorau lleol/awdurdodau cyfun i drafod y rôl y gallai addysg uwch ei chwarae i sicrhau bod mwy o ffyniant ym mhob rhan o’r wlad.

Ymchwil HESA: 'Twf cynhwysol: A all data gefnogi llunwyr polisi a'r sector addysg uwch i gyflawni'r amcan hwn?'

Yr effaith: 'Datblygu darpariaeth Addysg Uwch mewn ‘mannau oer’ i gefnogi twf economaidd’ - UPP Foundation


Eisiau gwybod mwy?

Dewch o hyd i ragor o enghreifftiau o'n hymchwil gan ddefnyddio data Hynt Graddedigion ar wefan HESA. Gallwch hefyd gofrestru i dderbyn rhybuddion e-bost pan fydd HESA yn cyhoeddi ymchwil newydd.

HESA, part of Jisc