Mae tablau cynghrair yn helpu myfyrwyr y dyfodol i wneud penderfyniadau ynghylch ble a beth i'w astudio gan ddefnyddio ffactorau amrywiol a allai fod yn bwysig iddynt.
Mae ymatebion i'r arolwg Hynt Graddedigion yn rhan hanfodol o'r cyfrifiadau tabl cynghrair hyn gan ein bod yn darparu ffynhonnell gyfoethog o ddata am ragolygon graddedigion.
Gall tablau cynghrair, fel y Complete University Guide, Guardian University Guide a Good University Guide, roi darlun cyffredinol da o berfformiad ac ansawdd prifysgol. Trwy edrych ar ffactorau fel safonau mynediad, boddhad myfyrwyr a rhagolygon graddedigion, mae myfyrwyr y dyfodol yn cael dealltwriaeth glir o sut mae gwahanol brifysgolion yn cymharu. Mae hyn yn eu helpu i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch ble i astudio.
Mae tablau cynghrair yn rhestru mwy na 100 o brifysgolion y DU bob blwyddyn gan ddefnyddio data sydd ar gael yn gyhoeddus.
O ble mae data’r tablau cynghrair yn dod?
Mae casglwyr tablau cynghrair yn cymryd llawer o ffactorau i ystyriaeth wrth gyfrifo sgoriau prifysgolion ac yn dibynnu ar ffynonellau data allanol dibynadwy. Mae'r ffynonellau hyn yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS), y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) a HESA, gan gynnwys data o'r arolwg Hynt Graddedigion.
Pa ddata Hynt Graddedigion a ddefnyddir?
Hynt Graddedigion yw'r data mwyaf cyflawn sydd ar gael ar y farchnad lafur ar gyfer graddedigion o ddarparwyr addysg uwch. Oherwydd hyn, mae'n ffynhonnell ddata hanfodol i asesu i ba raddau y mae myfyrwyr wedi cymryd cam cyntaf cadarnhaol yn y 15 mis ar ôl graddio.
Mae tablau cynghrair yn defnyddio gwahanol fesuriadau ond gallant gynnwys:
- yr hyn y mae graddedigion yn ei wneud ar hyn o bryd (gweithio a /neu astudio pellach)
- a yw graddedigion yn mynd i mewn i alwedigaeth lefel raddedig (gan ddefnyddio codau SOC)
- a yw graddedigion yn mynd ymlaen i astudio ymhellach ar lefel broffesiynol neu addysg uwch
- eu canfyddiadau o waith ar ôl cwblhau eu cwrs, gan gynnwys myfyrio ar sut maen nhw'n symud ymlaen tuag at eu nodau yn y dyfodol.
Wnaethoch chi ddefnyddio tabl cynghrair i'ch helpu i ddewis ble a beth i'w astudio?
Os gwnaethoch hynny, yna byddai data Hynt Graddedigion wedi eich helpu i gyrraedd lle rydych chi heddiw. Gwnewch yr arolwg pan fydd yr amser yn iawn a helpwch ddarpar fyfyrwyr i wneud penderfyniadau am eu dyfodol.
Ewch i'r Complete University Guide, Guardian University Guide, Good University Guide (wal dalu) The Times a Sunday Times i gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r tablau cynghrair yn cael eu creu.