Prospects.ac.uk yw gwefan gyrfaoedd graddedigion prysuraf y DU, gyda mwy na dwy filiwn o ymwelwyr bob mis. Ei nod yw darparu gwybodaeth a chanllawiau sydd eu hangen ar fyfyrwyr a graddedigion i wneud eu penderfyniadau eu hunain am eu llwybr gyrfa.
Maen nhw'n gwneud hyn drwy ddarparu data am yr hyn a wnaeth eu rhagflaenwyr - myfyrwyr a astudiodd yr un pwnc gradd â nhw - ar ôl gadael y brifysgol. Dim ond oherwydd eich ymatebion i'r arolwg Hynt Graddedigion y mae hyn yn bosibl.
Sut mae data Hynt Graddedigion yn cael eu defnyddio?
Mae cyfres Beth allaf ei wneud â fy ngradd? Prospects yn defnyddio canlyniadau’r arolwg i roi trosolwg cynhwysfawr o ba yrfaoedd y gallai myfyriwr graddedig fynd iddynt ar ôl astudio pwnc penodol yn y brifysgol.
Pa fathau o swyddi a gafodd eraill a astudiodd y pwnc hwn? Faint sy'n dueddol o fynd ymlaen at astudiaethau ôl-raddedig? Beth yw'r gyfradd gyflogaeth ar gyfer graddedigion yn y pwnc hwn? Mae data Hynt Graddedigion yn ateb y cwestiynau hyn a mwy - gan roi cipolwg heb ei ail i fyfyrwyr presennol a graddedigion newydd o'r opsiynau sydd ar gael iddynt.
Helpu gwasanaethau gyrfaoedd i'ch helpu chi
Mae Prospects hefyd yn darparu adnoddau a chymorth i wasanaethau gyrfaoedd prifysgolion, trwy Prospects Luminate.
Bob blwyddyn, defnyddir data Hynt Graddedigion i gynhyrchu Beth mae graddedigion yn ei wneud?, cyhoeddiad cynhwysfawr sy'n nodi'r holl ddata fesul pwnc am yr hyn y mae graddedigion yn ei wneud 15 mis ar ôl gadael addysg. Mae’r adroddiad hwn yn darparu’r data a’r wybodaeth ddiweddaraf i sicrhau bod yr arweiniad y mae cynghorwyr yn eu rhoi i fyfyrwyr presennol y gorau y gall fod.
Pam cwblhau'r arolwg?
Trwy gwblhau'r arolwg Hynt Graddedigion, rydych chi'n gwneud cyfraniad enfawr at y gwaith y mae Prospects yn ei wneud wrth gynorthwyo myfyrwyr a graddedigion â chyngor gyrfaoedd. Mae eich data yn caniatáu iddynt gyflwyno cynnwys sy'n helpu eraill i wneud eu penderfyniadau eu hunain am eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Mewn gwirionedd, pe byddech yn defnyddio gwefan Prospects neu'n siarad â chynghorydd gyrfaoedd pan oeddech yn penderfynu beth i'w wneud ar ôl graddio, mae'n debygol iawn bod data Hynt Graddedigion wedi chwarae rhan yn yr arweiniad a roddwyd i chi.
Fel y gwyddoch, gall y newid o addysg i gam nesaf eich gyrfa fod yn gyfnod anodd. Mae cymryd rhan yn yr arolwg yn golygu y gallwch chi helpu i barhau i gefnogi myfyrwyr a graddedigion y dyfodol trwy'r cyfnod pwysig hwn yn eu gyrfaoedd eu hunain.