Mae data Hynt Graddedigion yn helpu myfyrwyr y presennol a'r dyfodol i wneud penderfyniadau ar eu llwybrau gyrfa - a daw hyn yn wir yn Darganfod Prifysgol.
Mae Darganfod Prifysgol yn darparu gwybodaeth, cyngor a chanllawiau i gynorthwyo darpar fyfyrwyr i ddod i wybod am opsiynau mewn addysg uwch a gwneud penderfyniad sy'n iawn iddyn nhw. Mae'n defnyddio data o'r arolwg Hynt Graddedigion i helpu myfyrwyr y dyfodol i wneud dewisiadau am gyrsiau a darparwyr.
Ynglŷn â'r data
Mae set ddata Darganfod Prifysgol yn cynnwys gwybodaeth y mae darparwyr yn ei chyflwyno am eu cyrsiau israddedig. Mae hefyd yn defnyddio ystadegau swyddogol a gasglwyd o ffynonellau cyhoeddedig dibynadwy i helpu darpar fyfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dewisiadau cwrs a phrifysgol neu goleg.
Mae hyn yn cynnwys yr arolwg Hynt Graddedigion, yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) a Chanlyniadau Addysg Hydredol (LEO).
Mae Hynt Graddedigion yn darparu data am yr hyn y mae graddedigion yn ei wneud 15 mis ar ôl cwblhau eu cwrs. Rydym yn credu bod hyn yn rhoi amser i chi fyfyrio ar werth eich astudiaethau yn eich gweithgareddau presennol, sut mae hyn yn cymharu â'ch cynlluniau gwreiddiol a sut rydych chi'n defnyddio'r sgiliau rydych chi wedi'u dysgu tra mewn addysg.
Pa ddata Hynt Graddedigion a ddefnyddir?
I helpu myfyrwyr y dyfodol i wneud dewisiadau am gyrsiau a darparwyr, mae Darganfod Prifysgol yn defnyddio'r data o nifer o gwestiynau allweddol o'r arolwg Hynt Graddedigion. Mae'r rhain yn cynnwys:
- beth mae graddedigion yn ei wneud ar hyn o bryd (gweithio, astudio ymhellach, di-waith neu'n gwneud rhywbeth arall)
- faint maen nhw'n ei ennill
- eu canfyddiadau o waith ar ôl cwblhau eu cwrs, gan gynnwys myfyrdodau ar:
- pa mor ystyrlon neu bwysig mae eu gweithgaredd yn eu barn nhw
- a ydyn nhw'n defnyddio'r sgiliau a enillwyd ganddynt
- sut maen nhw'n symud ymlaen tuag at eu nodau yn y dyfodol.
Wnaethoch chi ddefnyddio Darganfod Prifysgol i'ch helpu i ddewis ble a beth i'w astudio?
Os gwnaethoch hynny, yna byddai data Hynt Graddedigion wedi eich helpu i gyrraedd lle rydych chi heddiw. Gwnewch yr arolwg pan fydd yr amser yn iawn a helpwch fyfyrwyr y dyfodol i wneud penderfyniadau am eu dyfodol.
Gweler tudalen Darganfod Prifysgol am ein data ar y we i weld rhagor o wybodaeth neu ddysgu mwy am sut mae data Hynt Graddedigion yn cael eu defnyddio ar dudalen cwrs Darganfod Prifysgol.