Gwybodaeth Preifatrwydd

HYSBYSIAD - newid rheolydd

Ar 4 Hydref 2022 unodd yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig (HESA) gyda Jisc. Mae HESA bellach yn rhan o Jisc, cwmni di-elw cyfyngedig trwy warant, sydd wedi'i gofrestru yn Lloegr (rhif cwmni: 05747339; rhif elusen: 1149740).

Mae unrhyw ddata personol sy’n cael ei brosesu gan HESA fel rheolydd bellach wedi’i drosglwyddo i Jisc o dan y dibenion a nodir yn yr hysbysiad casglu hwn a Jisc bellach yw Rheolydd y data personol hwn. Mae cyfeiriadau at ‘Gwybodaeth HESA’ yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn golygu data a reolir gan Jisc.

Jisc yw Rheolydd data gwefan Hynt Graddedigion ac unrhyw brosesu addisgrifir arni, oni nodir fel arall. Mae hyn yn golygu mai Jisc sy'n penderfynu ar y modd a'r pwrpas o brosesu.

O dan gyfreithiau diogelu data’r DU, mae’n ofynnol i ni ddarparu gwybodaeth benodol i chi ynglŷn â phwy ydym ni, sut rydym yn prosesu eich data personol ac at ba ddibenion a’ch hawliau mewn perthynas â’ch data personol. Mae’r wybodaeth hon wedi’i darparu yn yr hysbysiad casglu hwn. Mae'n bwysig eich bod yn darllen y wybodaeth hon.

Mae manylion ynghylch sut i arfer eich hawliau diogelu data i’w gweld yn yr hysbysiad casglu hwn. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â sut mae eich data personol yn cael ei brosesu, cysylltwch â [email protected].


Ym mis Gorffennaf 2021, gwnaed y penderfyniad i symud i un hysbysiad casglu ar gyfer graddedigion ar gyfer holl flynyddoedd yr arolwg. Mae'r hysbysiadau hyn ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Effeithiwyd ar y newid hwn i wneud yr hysbysiadau'n fwy hygyrch a thryloyw i wrthrychau'r data. Mae'r hysbysiadau'n cysylltu â chofnodion penodol ar draws blynyddoedd yr arolwg Hynt Graddedigion. Jisc yw rheolwr y data personol hwn bellach. Os oes arnoch angen unrhyw gymorth i nodi pa gofnod mae eich 'gwybodaeth HESA' wedi’i chynnwys ynddo, cysylltwch â [email protected] i gael arweiniad.

Mae copïau o'r hysbysiadau hanesyddol yn parhau i fod ar gael ar y dudalen Hysbysiadau Casglu Hanesyddol.

Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar yr hysbysiadau hyn sydd wedi’u cyhoeddi.


Mae'r arolwg Canlyniadau Graddedigion yn arolwg ledled y DU sy'n casglu gwybodaeth am weithgareddau a safbwyntiau graddedigion 15 mis ar ôl iddynt orffen eu hastudiaethau.Rydyn ni’n gofyn i’r holl raddedigion cymwys gymryd rhan yn yr arolwg, er mwyn helpu’r myfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol i gael gwybodaeth am gyrchfannau a datblygiad gyrfaol. . Bydd eich ymatebion hefyd o fudd i'ch prifysgol neu goleg wrth werthuso a hyrwyddo eu cyrsiau.

Mae'r arolwg hefyd o bwysigrwydd cenedlaethol gan ei fod yn galluogi llunwyr polisi, elusennau, newyddiadurwyr, ymchwilwyr ac eraill i ddeall y.sector addysg uwch a chyflwr y farchnad lafur i raddedigion.

Mae Jisc yn prosesu gwybodaeth am destunau data’r DU a gwledydd eraill, gan gynnwys testunau data’r UE. Yn unol â hynny, rhaid i bob defnydd o wybodaeth HESA gydymffurfio â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (“GDPR”) (gan gynnwys fersiynau'r DU a'r UE) a Deddf Diogelu Data 2018 (“DPA”).

YNGLŶN Â'R HYSBYSIAD PREIFATRWYDD HWN

Mae'r hysbysiad hwn yn nodi'r wybodaeth ynglŷn â phwy sy'n prosesu eich gwybodaeth, ar gyfer beth y maent yn ei defnyddio, y seiliau cyfreithiol ar gyfer y prosesu hwn, a'ch hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data.

Adolygu a diweddariadau i'r hysbysiad hwn

Mae'r hysbysiad hwn yn cael ei adolygu'n rheolaidd a'i ddiweddaru weithiau, er enghraifft pan mae sefydliadau yn newid eu henwau, neu i egluro sut y defnyddir eich gwybodaeth.

Gellir gwneud diweddariadau ar unrhyw adeg a chewch hyd i'r fersiwn fwyaf diweddar bob amser ar cy.graduateoutcomes.ac.uk/privacy-info. Mae fersiynau blaenorol ar gael ar wefan HESA.

Sut i ddarllen yr hysbysiad preifatrwydd hwn

Cliciwch ar y penawdau ar gyfer gwybodaeth. Mae gan bob adran wybodaeth allweddol mewn testun trwm.

Darperir mwy o fanylder mewn testun normal.

Gwybodaeth Preifatrwydd Trydydd Parti

Drwy gydol yr hysbysiad preifatrwydd hwn byddwn yn cysylltu â dogfennaeth preifatrwydd y sefydliadau yr ydym yn rhannu eich gwybodaeth â hwy.

Byddwn yn rhoi uwchddolen at yr hysbysiadau preifatrwydd perthnasol i'ch galluogi i weld sut mae pob sefydliad sy'n ei derbyn yn prosesu eich gwybodaeth. I weld tudalen preifatrwydd sefydliad, cliciwch ar enw'r sefydliad ym mhob adran.


Ynglŷn â'r arolwg

Am beth fyddaf yn cael fy holi?

Mae'r arolwg yn eich holi am yr hyn yr ydych yn ei wneud 15 mis ar ôl i chi orffen eich cwrs. Mae'r arolwg hefyd yn gofyn rhai cwestiynau goddrychol ynglŷn â'ch teimladau am eich sefyllfa bresennol a'ch llesiant cyffredinol.

Mae’r arolwg yn gofyn beth oeddech chi’n ei wneud mewn wythnos benodol (wythnos y cyfrifiad) tua 15 mis ar ôl i chi gwblhau cwrs Addysg Uwch (AU), a pha weithgaredd oedd bwysicaf i chi , a pha weithgaredd oedd bwysicaf i chi (e.e. gweithio, astudio, gofalu, teithio). Bydd cwestiynau pellach yn gofyn am fwy o fanylion yn dibynnu ar y gweithgaredd a nodwyd gennych fel yr un bwysicaf.

Gellir cynnwys cronfeydd ychwanegol o gwestiynau ar gais eich prifysgol neu goleg (darparwr ‘addysg uwch’ neu ‘AU’)  a bydd y rhain yn cael eu nodi'n glir.

Mae rhai cwestiynau yn dibynnu ar y math o gwrs a gwblhawyd gennych– er enghraifft, mae cwestiynau arbennig ar gyfer athrawon sydd newydd gymhwyso ac ymchwilwyr ôl-raddedig.

Os oeddech yn gweithio yn ystod wythnos y cyfrifiad, bydd yr arolwg hefyd yn gofyn ynglŷn â'ch cyflog.

Mae rhai cwestiynau wedi’u cynllunio i glywed ‘llais y graddedigion’  - gan roi cyfle i chi rannu eich asesiad eich hun ynglŷn â gwerth eich cwrs a phwysigrwydd personol yr hyn yr ydych yn ei wneud nawr.

Mae cwestiynau eraill yn holi am eich llesiant cyffredinol. Nid yw'r rhain yn rhan o'r cwestiynau craidd ac nid oes rhaid i chi rannu'r wybodaeth hon. Ni fydd eich darparwr AU yn derbyn eich atebion i'r cwestiynau hyn mewn ffordd sy'n galluogi eich adnabod chi (dim ond crynodebau o'r ymatebion cyffredinol ar gyfer eu graddedigion fel grŵp, nid yn unigol) fyddant yn eu cael.

Mae ymatebion eich arolwg yn gysylltiedig â data ynghylch pryd roeddech chi'n fyfyriwr ac mae'r rhain gyda'i gilydd yn ffurfio “eich Gwybodaeth HESA". Jisc yw rheolwr eich Gwybodaeth HESA bellach.

Mae rhestr lawn o eitemau data y gellir eu cynnwys yn eich Gwybodaeth HESA ar gael ar gyfer pob blwyddyn arolygu isod. Os oes arnoch angen unrhyw gymorth i weld pa gofnodion mae eich gwybodaeth HESA wedi’i chynnwys ynddynt efallai, cysylltwch â [email protected] i gael arweiniad.

Os ydych chi’n raddedig ac wedi ennill cymhwyster AU perthnasol yn ystod y cyfnod adrodd, gyda’ch astudiaethau’n llawn amser neu'n rhan amser (gan gynnwys myfyrwyr cyrsiau rhyngosod a'r rhai sy'n ysgrifennu traethodau ymchwil) sy’n hysbys i Jisc neu'r corff perthnasol, byddwch yn cael eich arolygu yn seiliedig ar y cyfnodau adrodd yn y tabl isod.
 

Arolwg Canlyniadau Graddedigion

Blwyddyn Gasglu

Cyfnod Adrodd

2018/19

01 Awst 2017 i 31 Gorffennaf 2018

2019/20

01 Awst 2018 i 31 Gorffennaf 2019

2020/21

01 Awst 2019 i 31 Gorffennaf 2020

2021/22

01 Awst 2020 i 31 Gorffennaf 2021

2022/23 01 Awst 2021 i 31 Gorffennaf 2022
2023/24 01 Awst 2022 i 31 Gorffennaf 2023

 

Mae'r Cyfnod Adrodd yn nodi'r dyddiad pryd cawsoch eich cymhwyster perthnasol. Mae'r Flwyddyn Gasglu yn nodi blwyddyn yr arolwg y bwriedir casglu'ch 'Gwybodaeth HESA' ynddi. Er enghraifft, os cawsoch eich cymhwyster perthnasol rhwng 1 Awst 2022 a 31 Gorffennaf 2023, fe'ch gwahoddir i gymryd rhan yn yr arolwg rhwng Rhagfyr 2023 a Thachwedd 2024.

Mae Jisc yn nodi graddedigion cymwys cyn pob Blwyddyn Gasglu o'r casgliadau Myfyrwyr ac Amgen Myfyrwyr. Mae'r Hysbysiad Casglu Myfyrwyr yn darparu gwybodaeth bellach ynghylch defnyddio data personol at ddibenion arolygon myfyrwyr a’r rhai sydd wedi gadael: https://www.hesa.ac.uk/about/regulation/data-protection/notices.

Ar gyfer colegau addysg bellach yn Lloegr a Gogledd Iwerddon mae graddedigion cymwys yn cael eu nodi gan yr Office for Students ac Adran yr Economi (Gogledd Iwerddon), yn y drefn honno. Ar gyfer y graddedigion hyn, bydd Jisc hefyd yn derbyn meysydd sy'n angenrheidiol ar gyfer monitro cyfle cyfartal a dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, gan gynnwys gwybodaeth am ethnigrwydd a statws anabledd.

Dim ond am resymau a amlinellir o dan Bwrpas 6 yr hysbysiad hwn y bydd y data Categori Arbennig hyn yn cael eu prosesu'n fewnol gan Jisc.

Beth fydd yn digwydd i fy ngwybodaeth os byddaf yn gadael yr arolwg ar ôl ei gwblhau’n rhannol?

Os byddwch yn dechrau'r arolwg ond ddim yn ateb yr holl gwestiynau, byddwn yn anfon negeseuon atgoffa atoch ar e-bost neu drwy neges destun neu (os oedd eich cyfeiriad cartref parhaol cyn dechrau eich cwrs yn y DU neu'r UE) byddwn yn ceisio cysylltu â chi dros y ffôn i'w gwblhau yn nes ymlaen.

Po fwyaf o gwestiynau yr ydych yn eu hateb, y mwyaf defnyddiol bydd eich gwybodaeth. Os ydych yn ateb ychydig o gwestiynau yn unig, byddwn yn gwneud defnydd o'r wybodaeth hon o hyd. Yn dibynnu ar faint o gwestiynau rydych wedi eu hateb, byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth at rai neu bob un o’r dibenion a nodir isod.

Pwy sy'n cynnal yr arolwg Hynt Graddedigion?

Mae’r arolwg yn cael ei gyflwyno gan Jisc i helpu darparwyr AU i gyflawni eu gofyniad cyfreithiol i adrodd ar ganlyniadau AU i'r cyrff cyllido a rheoleiddio. Mae'r cyrff cyllido a rheoleiddio yn comisiynu'r arolwg Hynt Graddedigion ac yn mynnu bod Jisc a darparwyr addysg uwch yn cydweithio i gynnal yr arolwg. Mae Jisc yn cyflogi sefydliad o'r enw IFF Research i gynnal yr arolwg Hynt Graddedigion dros y ffôn.

Mae'n ofynnol i ddarparwyr AU roi gwybodaeth i gyrff cyllido a rheoleiddio yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon (gweler Pwrpas 2 isod).

Cesglir peth o'r wybodaeth hon gan Jisc ar ran y cyrff hyn (www.hesa.ac.uk/about).

Yn Lloegr, Jisc yw'r Corff Data Dynodedig a bydd yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd o'r arolwg ar gyfer ei swyddogaethau statudol o dan Adran 64 ac Adran 65 Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2018 (http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2017/29/contents/enacted).

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Jisc yn fframweithiau statudol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ewch i wefan HESA: https://www.hesa.ac.uk/about/what-we-do/statutory-w-s-ni.

Yn ogystal â'i swyddogaethau statudol, mae Jisc hefyd yn gweithredu fel canolbwynt gwybodaeth ar gyfer data ac ystadegau AU at ddibenion ymchwil. Nodir manylion gweithgareddau rhannu gwybodaeth Jisc yn yr hysbysiad hwn. Mae Jisc yn rheolydd ar gyfer eich gwybodaeth. Mae Jisc yn elusen gofrestredig ac mae'n gweithredu ar sail ddielw.

Prosesydd yw IFF Research sy'n gweithio ar ran Jisc i ymgymryd â'r arolwg Hynt Graddedigion dros y ffôn.

Weithiau bydd amgylchiadau darparwr addysg uwch yn newid fel nad yw’n orfodol i arolygu eu graddedigion mwyach. Yn yr achos hwn, gall y darparwr addysg uwch, a Jisc gytuno i barhau â’r arolwg Hynt Graddedigion ar gyfer graddedigion y darparwr lle bo hyn er budd y cyhoedd.

Sut y cafodd Jisc fy manylion cyswllt?

Darperir manylion ar gyfer yr arolwg Hynt Graddedigion gan y darparwr AU y buoch yn ei fynychu.

Mae Jisc yn derbyn data am fyfyrwyr  AU yn y DU. Anfonodd y darparwr AU y bu i chi ei fynychu eich manylion cyswllt naill ai at HESA cyn iddo uno â Jisc a throsglwyddwyd eich manylion cyswllt i Jisc pan unodd HESA a Jisc, neu anfonwyd eich manylion cyswllt gan eich darparwr yn uniongyrchol at Jisc ar ôl i HESA a Jisc uno. Anfonodd eich darparwr AU eich manylion cyswllt er mwyn i chi allu cymryd rhan yn yr arolwg Deilliannau Graddedigion fel y disgrifir yn yr Hysbysiad Casglu i Fyfyrwyr.

Os gwnaethoch astudio mewn coleg addysg bellach yn Lloegr, darparwyd eich manylion cyswllt i Jisc gan yr Asiantaeth Cyllido Addysg a Sgiliau (ESFA) drwy'r Office for Students (OfS) drwy'r Cofnod Dysgwr Unigol (ILR). Gall Colegau Addysg Bellach ddarparu'ch manylion cyswllt i Jisc yn uniongyrchol hefyd.

Os ydych chi wedi cael benthyciad neu grant gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC), efallai y byddant hefyd wedi rhoi eich manylion cyswllt i ni fel ein bod yn gallu cymharu’r rhain â’r rhai a dderbyniwyd gan eich darparwr addysg uwch neu goleg addysg bellach a sicrhau ein bod yn defnyddio’r y wybodaeth fwyaf cywir i anfon yr arolwg Canlyniadau Graddedigion atoch chi.

Cyn 4 Hydref 2022 rhoddwyd eich manylion cyswllt i HESA. Trosglwyddodd HESA y manylion cyswllt hyn i Jisc pan unodd y ddau endid ym mis Hydref 2022.

Caiff eich manylion cyswllt eu defnyddio gan Jisc a'i phroseswyr data yn unig er mwyn cynnal yr arolwg Hynt Graddedigion ac mae copïau yn cael eu dileu gan bob sefydliad pan nad oes eu hangen bellach ar gyfer yr arolwg. Rydym yn rhagweld y bydd hyn oddeutu 12 mis ar ôl i'r criw olaf o raddedigion ym mhob blwyddyn gael eu harolygu i ganiatáu ar gyfer unrhyw archwiliad neu ailarolygu a allai fod yn ofynnol gan y cyrff cyllido a rheoleiddio, neu unrhyw ddadansoddiad ychwanegol sy'n gysylltiedig ag ansawdd y manylion cyswllt. Er enghraifft, i'r rhai sy'n graddio yn 2020/21, mae'n debygol y bydd y manylion cyswllt yn cael eu dileu ym mis Rhagfyr 2023.


Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth eich manylion cyswllt:

Mae prosesu eich manylion cyswllt yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd ac wrth ymarfer yr awdurdod swyddogol sydd wedi'i ymddiried yn Jisc (gweler Erthygl 6(1)(e) y GDPR).

A all rhywun arall ateb yr arolwg ar fy rhan?

Oes, os na fyddwch yn cwblhau'r arolwg ar-lein (a bod eich cyfeiriad cartref parhaol cyn dechrau eich cwrs yn y DU neu'r UE), byddwn yn ceisio cysylltu â chi dros y ffôn. Os na allwn gysylltu â chi, ond atebir y ffôn gan rywun sy'n eich adnabod yn dda, efallai y byddwn yn gofyn iddo ateb y cwestiynau craidd ynglŷn â'r hyn yr ydych yn ei wneud ar ôl graddio.

Os bydd rhywun arall yn cwblhau'r arolwg ar eich rhan ond byddai'n well gennych ddarparu eich atebion eich hun, bydd dal modd i chi gwblhau'r arolwg dros eich hunan gan ysgrifennu dros atebion y trydydd parti. Cysylltwch ag [email protected] os hoffech wneud hynny.

Noder, fodd bynnag, os ydych chi'n raddedig o goleg addysg bellach yn Lloegr ni fyddwn yn gofyn i unigolyn arall gwblhau'r arolwg ar eich rhan.

A fydd rhywun yn cysylltu â mi ar gyfer arolygon pellach?

Efallai y bydd y cyrff cyllido a rheoleiddio a restrir yn Niben 3 isod yn ymgymryd ag ymchwil bellach er budd y cyhoedd ym maes canlyniadau AU, gan gynnwys arolygon pellach o raddedigion. Os bydd rhywun yn cysylltu â chi ynglŷn ag arolygon pellach, bydd y cysylltiad hwn yn dod oddi wrth eich darparwr AU neu gan y sefydliad sy'n cynnal yr ymchwil a bydd yn cynnwys gwybodaeth preifatrwydd bellach.

Mae’n bosibl y bydd Jisc, neu un o’n proseswyr, yn cysylltu â chi hefyd fel rhan o archwiliad i wirio bod yr arolwg Hynt Graddedigion wedi’i wneud yn gywir.


Sut y defnyddir y wybodaeth a phwy sy'n ei defnyddio

Diben 1 – Bydd eich ymatebion i’r arolwg yn cael eu darparu i'ch darparwr addysg uwch

Bydd eich ymatebion yn cael eu derbyn gan eich darparwr addysg uwch, a fydd yn defnyddio'r wybodaeth at ddibenion ymchwil ac ystadegol i'w helpu i wella canlyniadau ei gyrsiau yn unig oni bai eich bod yn rhoi caniatâd ar gyfer dibenion eraill trwy'r arolwg.

Bydd eich darparwr addysg uwch yn defnyddio atebion eich arolwg i wneud gwaith ymchwil ar ganlyniadau cyrsiau gwahanol ac effeithiolrwydd y gwasanaethau gyrfaoedd. Defnyddir yr ymchwil hon gan ddarparwyr addysg uwch er mwyn gwella cyrsiau a gwasanaethau a'u hyrwyddo i fyfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr.

Os yw'r darparwr AU wnaethoch chi ei fynychu wedi uno ag un arall ers i chi raddio, gall y cyfathrebu o’r adran Canlyniadau Graddedigion gyfeirio at enw a logo'r darparwr wnaethoch chi ei fynychu, nid y darparwr AU cyfun newydd. Bydd gan y darparwr AU cyfun newydd ddiddordeb yn eich atebion o hyd ond dim ond ar ôl i Jisc gael cadarnhad bod y graddedigion wedi cael gwybod am yr uno fydd eich atebion yn mynd i'r darparwr AU cyfun newydd. Bydd eich atebion yn parhau i gael eu defnyddio ar gyfer Dibenion 2 i 4 a nodir isod.

Bydd darparwyr addysg uwch yn derbyn gwybodaeth sydd wedi'i diweddaru'n gyson o ymatebion i’r arolwg yn ystod cyfnod yr arolwg. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi'i chodio ar ddiwydiannau a swyddi graddedigion sy'n cael eu cyflogi. Gellir ond prosesu'r wybodaeth hon at ddiben monitro cynnydd yr arolwg Hynt Graddedigion.

Mae'r arolwg yn gofyn a ydych yn fodlon fod eich darparwr addysg uwch yn cysylltu â chi ynglŷn ag atebion eich arolwg. Os nad ydych yn fodlon, bydd eich darparwr ond yn gallu defnyddio eich atebion i’r arolwg at ddibenion ymchwil ac ystadegol ac ni fydd angen iddo gysylltu â chi â gwybodaeth preifatrwydd ychwanegol.

Os byddwch yn fodlon, bydd eich darparwr yn gallu cysylltu â chi o ran unrhyw ran o’r wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn yr arolwg. Nid oes manylion cyswllt newydd yn cael eu darparu i ddarparwyr addysg uwch, felly os byddant yn cysylltu â chi, byddant yn defnyddio'r wybodaeth gyswllt yr oedd ganddynt eisoes cyn yr arolwg. Er mwyn diweddaru'r manylion cyswllt sydd gan eich darparwr, cysylltwch ag ef yn uniongyrchol.

Bydd eich darparwr addysg uwch yn rheolydd ar gyfer eich gwybodaeth a bydd angen iddo benderfynu ei seiliau cyfreithiol ei hun ar gyfer cysylltu â chi. Os bydd eich darparwr yn cysylltu â chi, bydd rhaid iddo roi gwybodaeth preifatrwydd bellach i chi ynglŷn â sut y bydd yn defnyddio eich data personol.


Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth at Ddiben 1:

Mae prosesu eich gwybodaeth yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd ac wrth ymarfer yr awdurdod swyddogol sydd wedi’€ ymddiried yn Jisc (edrychwch ar Erthygl 6(1)(e) y GDPR).

Mae prosesu Categorïau Arbennig o ddata yn angenrheidiol at ddibenion ystadegol ac ymchwil yn unol ag Erthygl 89(1) y GDPR yn unol â'r dyletswyddau yn Neddf Cydraddoldeb 2010, Adran 75 Deddf Gogledd Iwerddon 1998, Deddf Economi Ddigidol 2017 neu ddeddfwriaeth ddilynol gyfatebol, neu at ddibenion ymchwil eraill sy'n dod o dan Erthygl 9(2)(j) y GDPR a DPA Atodlen 1, paragraff 4.

Diben 2 – Defnyddir eich ymatebion gan gyrff cyllido a rheoleiddio addysg uwch, sy'n mynnu bod Jisc a'ch darparwr addysg uwch yn cynnal yr arolwg hwn

Defnyddir y wybodaeth hon gan gyrff cyllido a rheoleiddio addysg uwch, sydd wedi defnyddio pŵer cyfreithiol neu reoleiddio i fynnu bod eich darparwr addysg uwch a/neu Jisc yn cynnal yr arolwg ac yn darparu gwybodaeth iddynt. Mae'r cyrff hyn yn defnyddio'r wybodaeth i ddeall y canlyniadau a ddaw o AU ac ar gyfer eu swyddogaethau statudol a/neu gyhoeddus, gan gynnwys dibenion ariannu, rheoleiddio a llunio polisi. Ni fydd eich ymatebion i’r arolwg yn cael eu defnyddio i wneud penderfyniadau amdanoc.

Bydd eich atebion i’r arolwg yn cael eu cysylltu â'r wybodaeth sy'n cael ei chadw amdanoch fel myfyriwr, gan gynnwys gwybodaeth y gwnaethoch ei darparu wrth gofrestru, a manylion ynglŷn â'r cymhwyster y gwnaethoch ei ennill. Ceir rhagor o wybodaeth am y Cofnod Myfyriwr yn yr Hysbysiad Casglu i Fyfyriwr a cheir rhagor o wybodaeth am y Cofnod Dysgwr Unigol yn Hysbysiad Preifatrwydd Cofnod y Dysgwr Unigol (ILR). Rhennir y wybodaeth hon gan Jisc â'r cyrff cyllido a rheoleiddio addysg uwch sydd wedi comisiynu'r arolwg ac sydd â'r pŵer i gasglu gwybodaeth gan y darparwyr addysg uwch. Mae'r cyrff hyn yn cynnwys:


Bydd eich Gwybodaeth HESA yn cael ei rhannu gyda'r sefydliadau hyn fel rhan o set ddata fawr sy'n cynnwys gwybodaeth debyg am bobl eraill sydd wedi cymryd cyrsiau AU yn y DU. Mae'r sefydliadau hyn hefyd yn rheolyddion ar gyfer eich Gwybodaeth HESA. Mae hyn yn golygu eu bod yn penderfynu dros eu hunain ynglŷn â sut i'w defnyddio, a gallai hyn gynnwys cyhoeddi ystadegau a rhannu'r wybodaeth gyda thrydydd partïon, megis cyrff llywodraeth neu gyhoeddus eraill neu sefydliadau eraill o'r math a restrir mewn man arall yn yr hysbysiad casglu hwn. Fodd bynnag, bydd pob defnydd o'ch Gwybodaeth HESA o fewn y dibenion a osodwyd yn yr hysbysiad casglu hwn a bydd yn cael ei gwmpasu gan gytundebau rhannu data gyda Jisc. Ni fydd y sefydliadau hyn yn defnyddio'ch data ar gyfer eich adnabod fel unigolyn neu i wneud penderfyniadau amdanoch. Efallai y bydd y sefydliadau hyn yn cadw eich Gwybodaeth HESA am gyfnod amhenodol at ddibenion ystadegol ac ymchwil.

Rhaid i bob defnydd o Wybodaeth HESA gydymffurfio â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.


Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth at Ddiben 2:

Mae prosesu eich Gwybodaeth HESA yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd ac wrth ymarfer yr awdurdod swyddogol sydd wedi'i ymddiried yn Jisc (edrychwch ar Erthygl 6(1)(e) y GDPR).

Mae prosesu Categorïau Arbennig o ddata yn angenrheidiol at ddibenion ystadegol ac ymchwil yn unol ag Erthygl 89(1) y GDPR yn unol â'r dyletswyddau yn Neddf Cydraddoldeb 2010, Adran 75 Deddf Gogledd Iwerddon 1998, Deddf Economi Ddigidol 2017 neu ddeddfwriaeth ddilynol gyfatebol, neu at ddibenion ymchwil eraill sy'n dod o dan Erthygl 9(2)(j) y GDPR a DPA Atodlen 1, paragraff 4.

Diben 3 – Awdurdodau cyhoeddus yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus

Mae Jisc yn gweithredu fel canolbwynt gwybodaeth er mwyn darparu data ac ystadegau ynglŷn ag AU. Er bod gan y cyrff a ddisgrifir yn Niben 2 (uchod) bŵer cyfreithiol neu reoleiddiol i ofyn am wybodaeth gan ddarparwyr addysg uwch penodol, mae awdurdodau cyhoeddus eraill hefyd yn defnyddio eich Gwybodaeth HESA ar gyfer eu swyddogaethau statudol a/neu gyhoeddus, gan gynnwys at ddibenion ariannu, rheoleiddio a llunio polisïau. Ni ddefnyddir eich ymatebion i’r arolwg er mwyn gwneud penderfyniadau amdanoch chi.

Ystadegau a data addysg:

Yn ogystal â'i gweithgareddau Corff Data Dynodedig, mae Jisc hefyd yn gweithredu fel canolbwynt gwybodaeth er mwyn darparu gwybodaeth am AU. Mae Jisc yn rhannu eich Gwybodaeth HESA ag awdurdodau cyhoeddus sydd eu hangen er mwyn cyflawni eu swyddogaethau statudol a/neu gyhoeddus. Cynhelir y gwaith rhannu data hwn er budd y cyhoedd neu wrth gyflawni awdurdod swyddogol a roddwyd i Jisc a'r awdurdodau cyhoeddus. Bydd eich Gwybodaeth HESA yn cael ei rhannu â'r sefydliadau hyn fel rhan o set ddata fawr sy'n cynnwys gwybodaeth debyg ynglŷn â phobl eraill sydd wedi cymryd cyrsiau AU yn y DU.

Mae'r sefydliadau hyn hefyd yn rheolyddion ar gyfer eich Gwybodaeth HESA. Mae hyn yn golygu eu bod yn gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain ynglŷn â sut i'w defnyddio, a gallai hyn gynnwys cyhoeddi ystadegau a rhannu gwybodaeth â thrydydd partïon, megis cyrff llywodraeth neu gyhoeddus eraill neu sefydliadau eraill o'r math a restrir mewn mannau eraill yn yr hysbysiad casglu hwn. Fodd bynnag, bydd pob defnydd o'ch Gwybodaeth HESA o fewn y dibenion a osodwyd yn yr hysbysiad casglu hwn a bydd yn cael ei gwmpasu gan gytundebau rhannu data gyda Jisc. Ni fydd y sefydliadau hyn yn defnyddio'ch data ar gyfer eich adnabod fel unigolyn neu i wneud penderfyniadau amdanoch. Efallai y bydd y sefydliadau hyn yn cadw eich Gwybodaeth HESA am gyfnod amhenodl at ddibenion ystadegol ac ymchwil, neu am gyfnod penodedig yn ddibynnol ar delerau eu cytundebau rhannu data gyda Jisc. Efallai y bydd sefydliadau o'r fath yn cynnwys:

Cyrff cyllido a rheoleiddio addysg uwch (o ran gwybodaeth nad yw'n cael ei chasglu o dan eu pŵer perthnasol – er enghraifft, mae gan y Swyddfa ar gyfer Myfyrwyr y pŵer i gasglu gwybodaeth o'r darparwyr yn Lloegr, ond mae angen gwybodaeth arni hefyd oddi wrth ddarparwyr mewn rhannau eraill o'r DU):


Adrannau addysg yn Lloegr yn y gweinyddiaethau datganoledig:


Cyrff eraill â swyddogaethau cyhoeddus sy'n gysylltiedig ag addysg:


ac unrhyw gyrff olynyddol. Gellir ychwanegu rheolyddion pellach i'r rhestr o bryd i'w gilydd – gweler y fersiwn ar-lein o’r hysbysiad hwn yn cy.graduateoutcomes.ac.uk/privacy-info.

Defnyddiau eraill a wneir o ddata a enwir

Efallai y defnyddir eich Gwybodaeth HESA gan rai sefydliadau sydd hefyd yn rheolyddion ac sy'n cynnal tasgau ystadegol ac ymchwil er budd y cyhoedd neu wrth gyflawni awdurdod swyddogol nad ydynt yn gysylltiedig ag addysg. Gallai defnyddiau o'r fath gynnwys y canlynol:


Bydd y rhestr uchod o sefydliadau a fydd efallai yn derbyn eich Gwybodaeth HESA yn newid dros amser. Bydd y rhestr uchod yn cael ei diweddaru ar wefan Hynt Graddedigion cy.graduateoutcomes.ac.uk/privacy-info o bryd i'w gilydd, a bydd angen i chi fonitro'r ddolen hon eich hun os hoffech fod yn ymwybodol o newidiadau.


Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth at Ddiben 3:

Mae prosesu eich Gwybodaeth HESA yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd ac wrth ymarfer yr awdurdod swyddogol sydd wedi'i ymddiried yn Jisc (edrychwch ar Erthygl 6(1)(e) y GDPR).

Mae angen prosesu data mewn categorïau arbennig at ddibenion ystadegol ac ymchwil yn unol ag Erthygl 89(1), sy'n seiliedig ar ddyletswyddau yn Neddf Cydraddoldeb 2010, Adran 75 o Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998, neu Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017 (edrychwch ar Erthygl 9(2)(j) y GDPR a DPA Atodlen 1, paragraff 4).

Diben 4 – Ystadegau cyhoeddedig

Mae Jisc, eich darparwr addysg uwch, a rhai o'r awdurdodau cyhoeddus a restrir yn Niben 2 a 3, yn cyhoeddi ystadegau ynglŷn â chanlyniadau AU.

Rhan o rôl Jisc yw paratoi a chyhoeddi gwybodaeth ynglŷn ag AU er budd y cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys rhai cyhoeddiadau Ystadegau Gwladol (https://uksa.statisticsauthority.gov.uk/about-the-authority/uk-statistical-system/types-of-official-statistics/) a gwasanaethau gwybodaeth busnes ac ymchwil ar-lein.

Bydd ystadegau Hynt Graddedigion hefyd yn cael eu cyhoeddi gan rai o'r awdurdodau cyhoeddus a restrir yn Nibenion 2 a 3 – er enghraifft, er mwyn darparu ystadegau cyflogaeth i helpu darpar fyfyrwyr i ddewis pa gyrsiau i’w hastudio.

Wrth gynhyrchu’r deunydd hwn i’w gyhoeddi, mae Jisc yn defnyddio rheolaeth datgelu, sef Methodoleg Crynhoi Safonol HESA, i sicrhau na chaiff unrhyw Ddata Personol ei gynnwys ac na ellir adnabod unigolion o ddeunydd a gyhoeddir.


Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'ch gwybodaeth at Ddiben 4:

Mae prosesu eich Gwybodaeth HESA yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd ac wrth ymarfer yr awdurdod swyddogol sydd wedi'i ymddiried yn Jisc (edrychwch ar Erthygl 6(1)(e) y GDPR).

Mae angen prosesu data mewn categorïau arbennig at ddibenion ystadegol ac ymchwil yn unol ag Erthygl 89(1), sy'n seiliedig ar ddyletswyddau yn Neddf Cydraddoldeb 2010, Adran 75 o Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998 (edrychwch ar Erthygl 9(2)(j) y GDPR a DPA Atodlen 1, paragraff 4).

Diben 5 – Cyfle cyfartal, ymchwil, newyddiaduraeth a phrosesu arall at ddibenion ystadegol ac ymchwil

Defnyddir Gwybodaeth HESA ar gyfer gwneud gwaith ymchwil ym maes HE a phoblogaeth y myfyrwyr. Gallai'r ymchwil hon fod yn academaidd, yn fasnachol, yn newyddiadurol neu ar gyfer rhesymau personol. Nid yw Jisc yn caniatáu adnabod myfyrwyr unigol gan y sawl sy'n cynnal yr ymchwil hon ac nid yw'r wybodaeth yn cael ei rhannu ar sail enw.

Efallai y bydd Jisc a'r rheolyddion eraill (gweler Dibenion 2 a 3) hefyd yn darparu gwybodaeth i drydydd partïon lle mae buddiant cyfreithlon am wneud hyn at ddibenion ystadegol ac ymchwil. Mae enghreifftiau o ddefnyddio gwybodaeth at y diben hwn yn cynnwys:

  • Darparu gwybodaeth i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr
  • Monitro cyfleoedd cyfartal
  • Ymchwil – gallai hyn fod yn ymchwil academaidd, ymchwil fasnachol neu ymchwil ystadegol arall lle mae hon er budd y cyhoedd
  • Newyddiaduraeth – lle byddai'r cyhoeddiad perthnasol o fudd i'r cyhoedd, e.e. tablau cynghrair
  • Creu a gweithredu adnoddau dadansoddi, er enghraifft, Heidi Plus


Mae'r defnyddwyr y gellir darparu gwybodaeth ar eu cyfer at Ddiben 5 yn cynnwys:

  • Cyrff y sector AU
  • Darparwyr AU
  • Ymchwilwyr a myfyrwyr academaidd
  • Sefydliadau masnachol (e.e. cwmnïau recriwtio, darparwyr tai, cyflogwyr graddedigion)
  • Undebau
  • Sefydliadau anllywodraethol ac elusennau
  • Cyrff lleol, rhanbarthol a chenedlaethol
  • Newyddiadurwyr

 

Cyflenwir yr wybodaeth a gyflenwir gan Jisc i drydydd partïon oddi mewn i Bwrpas 5 o dan gontractau sy’n dweud ei bod yn ofynnol peidio â gallu adnabod unigolion oddi wrth yr wybodaeth a gyflenwir ac mae hyn hefyd yn golygu na allant ei defnyddio i wneud penderfyniadau amdanoch chi.

Mae pob cytundeb Jisc ar gyfer cyflenwi gwybodaeth wedi'i theilwra yn nodi am ba hyd y gellir prosesu data. Blwyddyn yw’r cyfnod hwn fel rheol ond gall fod yn hirach os oes angen, ar gyfer y pwrpas ymchwil penodol. 
Asesir pob cais am Wybodaeth HESA o dan Bwrpas 5 am ei gydymffurfiaeth â deddfwriaeth diogelu data a’i gysondeb â’r Hysbysiad Casglu hwn. Mae Jisc yn sicrhau mai dim ond yr Wybodaeth HESA ofynnol ar gyfer y pwrpas ymchwil penodol a gyflenwir i ddefnyddwyr. Os yw’r wybodaeth a ddarparwyd i’w chyhoeddi, rhaid defnyddio Methodoleg Crynhoi HESA neu reolaeth ddatgelu gyfatebol i sicrhau na ellir adnabod unigolion o’r deunydd cyhoeddedig ac nid yw'n gyfystyr â Data Personol.

Mae pob cytundeb Jisc ar gyfer mynediad i Heidi Plus yn nodi at ba ddiben y gellir prosesu'r data.

Jisc sy'n gwneud y prosesu o fewn y Diben hwn 5. Gall Rheolwyr eraill (a restrir o dan Ddibenion 2 a 3 uchod) hefyd brosesu data at y diben hwn lle bo angen i gyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus.


Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'ch gwybodaeth at Ddiben 5:

Mae prosesu eich gwybodaeth Jisc yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd ac wrth ymarfer yr awdurdod swyddogol sydd wedi'i ymddiried yn Jisc (edrychwch ar Erthygl 6(1)(e) y GDPR).

Efallai y bydd prosesu’n angenrheidiol hefyd at ddibenion buddiannau cyfreithlon Jisc wrth ledaenu gwybodaeth AU, neu fuddiannau cyfreithlon trydydd partïon sy'n ymgymryd ag ymchwil ym maes AU (gweler Erthygl 6(1)(f) y GDPR).

Mae angen prosesu data mewn categorïau arbennig at ddibenion ystadegol ac ymchwil yn unol ag Erthygl 89(1), sy'n seiliedig ar ddyletswyddau yn Neddf Cydraddoldeb 2010, Adran 75 o Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998, edrychwch ar Erthygl 9(2)(j) y GDPR a DPA Atodlen 1, paragraff 4.

Diben 6 - Defnydd gan Jisc i gyflawni ei rôl fel corff data dynodedig ar gyfer Lloegr a'i swyddogaethau cyfatebol ar gyfer gwledydd eraill y Deyrnas Unedig

Mae eich Gwybodaeth HESA yn cael ei phrosesu gan Jisc i gasglu, crynhoi, cyhoeddi a rhannu data yn unol â'r hysbysiad hwn. Bydd y prosesu hwn yn cynnwys prosesu at ddibenion fel dadansoddi ac ymchwil i: adolygu a gwella ansawdd data, cywirdeb data, a'r defnyddioldeb, cyd-destun a chyfoeth y data / dadansoddiad y mae Jisc yn ei gynhyrchu. Bydd hefyd yn cael ei phrosesu i ddadansoddi ac ymchwilio i ganlyniadau addysg.

Mae Jisc yn prosesu eich Gwybodaeth HESA fel rhan o set ddata ystadegol fwy at y dibenion uchod er mwyn gwneud y canlynol:

  • Monitro a hyrwyddo perfformiad arolwg yn seiliedig ar nodweddion myfyrwyr
  • Creu meysydd sy'n deillio i gyfoethogi cyfleustodau data a gwybodaeth am 'ddata HESA'
  • Rhoi’r defnydd o 'ddata HESA' yn ei gyd-destun
  • Ymchwilio a deall cynnydd drwy AU. Gall hyn gynnwys cysylltu â'ch Gwybodaeth HESA yng Nghofnod y Myfyriwr: https://www.hesa.ac.uk/about/regulation/data-protection/notices
  • Sicrhau ansawdd data a chael gwared ar anghysonderau a gwella manwl gywirdeb data
  • Ymchwilo i ansawdd data a dibyniaeth y sector ar ddata cyfresi amser
  • Adolygu sut gellir gwneud newidiadau a gwelliannau i brosesau Jisc gan gynnwys systemau a meddalwedd a goblygiadau hyn i’r data y mae'n eu cynhyrchu

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'ch gwybodaeth at Ddiben 6:

Mae prosesu eich Gwybodaeth HESA yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd ac wrth ymarfer yr awdurdod swyddogol sydd wedi'i ymddiried yn Jisc (edrychwch ar Erthygl 6(1)(e) y GDPR).

Mae prosesu Categorïau Arbennig o ddata yn angenrheidiol at ddibenion ystadegol ac ymchwil yn unol ag Erthygl 89(1) y GDPR yn unol â'r dyletswyddau yn Neddf Cydraddoldeb 2010, Adran 75 Deddf Gogledd Iwerddon 1998, Deddf Economi Ddigidol 2017 neu ddeddfwriaeth ddilynol gyfatebol, neu at ddibenion ymchwil eraill sy'n dod o dan Erthygl 9(2)(j) y GDPR a DPA Atodlen 1, paragraff 4.

Efallai y bydd prosesu Categorïau Arbennig o ddata yn angenrheidiol hefyd am resymau sydd o ddiddordeb sylweddol i'r cyhoedd yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010 neu ddeddfwriaeth ddilynol gyfatebol (edrychwch ar Erthygl 9(2)(g) y GDPR a DPA Atodlen 1, paragraff 6).

Diben 7 – Cefnogaeth i unigolion sydd mewn argyfwng

O dan amgylchiadau eithriadol, os daw Jisc yn ymwybodol bod eich ymatebion i'r arolwg yn dangos bod risg sylweddol i chi neu i eraill, efallai y byddwn yn cysylltu â'ch darparwr neu’n gofyn i sefydliad cefnogi gysylltu â chi.

Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol fyddwn ni’n rhannu'r hyn rydych yn ei ddweud wrthym ac yn cymryd y camau uchod:

  • Os ydych yn nodi eich bod wedi cymryd camau i ddod â'ch bywyd i ben neu os yw'n ymddangos eich bod mewn perygl o fethu cadw eich hun yn ddiogel rhag hunanladdiad
  • Rydym yn credu eich bod chi neu rywun arall wedi bod mewn perygl o niwed difrifol, neu eich bod mewn perygl o niwed difrifol


Mae eich cyfrinachedd yn hollbwysig i ni a dim ond o dan yr amgylchiadau a nodir uchod fyddwn ni’n ystyried siarad â rhywun arall neu drefnu iddynt gysylltu â chi. Os yw’r amgylchiadau hynny'n berthnasol, hyd yn oed os nad ydych wedi rhoi caniatâd penodol i'ch darparwr gysylltu â chi, efallai y byddwn yn gofyn iddynt drefnu cyswllt yr un fath.


Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth ar gyfer Ddiben 7:

Mae prosesu eich Gwybodaeth HESA yn angenrheidiol i ddiogelu eich buddiannau hanfodol (gweler Erthygl 6(1)(d) GDPR) neu er mwyn bodloni buddiant cyfreithlon Jisc mewn amddiffyn eich diogelwch a’ch llesiant (gweler Erthygl 6(1)(f) GDPR)).

Mae prosesu Categorïau Arbennig o ddata personol yn angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd, ar sail cyfraith Undeb neu Aelod-wladwriaeth a fydd yn gymesur â'r nod a geisir, parchu hanfod yr hawl i ddiogelu data a darparu ar gyfer mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddiannau pwnc y data (edrychwch ar Erthygl 9(2)(g) y GDPR a DPA Atodlen 1, paragraff 18).

Diben 8 - Graddedigion y dychwelir eu gwybodaeth i Jisc yn wirfoddol

Os oeddech chi'n fyfyriwr yn astudio gyda darparwr AU sydd wedi dewis cymryd rhan yn yr arolwg Canlyniadau Graddedigion yn wirfoddol, bydd Jisc yn defnyddio'r data hyn at ddibenion 3 i 6. Os yw'r pwrpas hwn yn berthnasol mewn perthynas â'ch darparwr AU, dylai eich darparwr eich hysbysu am hyn.

Weithiau mae amgylchiadau darparwr AU yn newid fel nad yw'n orfodol iddo gymryd rhan yn yr arolwg. Yn yr achos hwn, efallai y bydd y darparwr AU a Jisc (yn dilyn ymgynghori â Chwsmeriaid Statudol perthnasol) yn cytuno i barhau i ganiatáu i'r darparwr ddychwelyd data ar gyfer eu graddedigion lle ystyrir bod hyn er budd y cyhoedd. Pe bai statws y darparwr yn newid fel ei bod yn orfodol cyflwyno data myfyrwyr i Jisc, cesglir y data hyn o dan Bwrpas 1.


Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'ch gwybodaeth at Ddiben 8:

Mae prosesu eich Gwybodaeth HESA yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd (edrychwch ar Erthygl 6(1)(e) y GDPR).

Mae prosesu Categorïau Arbennig o ddata yn angenrheidiol at ddibenion ystadegol ac ymchwil yn unol ag Erthygl 89(1) y GDPR yn unol â'r dyletswyddau yn Neddf Cydraddoldeb 2010, Adran 75 Deddf Gogledd Iwerddon 1998, Deddf Economi Ddigidol 2017 neu ddeddfwriaeth ddilynol gyfatebol, neu at ddibenion ymchwil eraill sy'n dod o dan Erthygl 9(2)(j) y GDPR a DPA Atodlen 1, paragraff 4.

Efallai y bydd prosesu Categorïau Arbennig o ddata yn angenrheidiol hefyd am resymau sydd o ddiddordeb sylweddol i'r cyhoedd yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010 neu ddeddfwriaeth ddilynol gyfatebol (edrychwch ar Erthygl 9(2)(g) y GDPR a DPA Atodlen 1, paragraff 6).

Diben 9 – Defnyddio ymatebion Graddedigion ar gyfryngau cymdeithasol

Os ydych chi’n postio’n gyhoeddus ar gyfryngau cymdeithasol (Twitter, Facebook, LinkedIn) eich bod wedi cwblhau’r arolwg Canlyniadau Graddedigion, efallai y bydd Jisc yn cysylltu â chi i ddefnyddio’r deunydd yma i annog graddedigion eraill i gwblhau’r arolwg.

Bydd Jisc yn ymateb i'ch neges ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn gofyn i chi gysylltu â Jisc os hoffech chi gymryd rhan mewn annog graddedigion eraill i gwblhau'r arolwg Canlyniadau Graddedigion. Gall hwn fod yn sgrinlun o'ch neges ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ddyfyniad o'ch neges ar y cyfryngau cymdeithasol, neu'n ddyfyniad neu'n fideo byr rydych chi'n ei ddarparu i Jisc. Mae posib defnyddio'r deunyddiau yma mewn e-byst gwahodd ar gyfer yr arolwg, cylchlythyrau, ar wefan Jisc, neu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Jisc.


Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth ar gyfer Ddiben 9:

Prosesu eich Gwybodaeth HESA er mwyn bodloni diddordeb dilys Jisc mewn casglu canlyniadau arolwg cynhwysfawr am Ganlyniadau Graddedigion (edrychwch ar Erthygl 6(1)(f) y GDPR).

Sut y cysylltir fy Ngwybodaeth HESA â gwybodaeth arall?

Mae Gwybodaeth HESA weithiau'n cael ei chysylltu â ffynonellau data eraill er mwyn galluogi ymchwil a dadansoddiad manylach.

Fel y nodir uchod, lle mae Jisc a sefydliadau a gwmpesir gan Ddiben 2 a 3 yn defnyddio Gwybodaeth HESA, gallai hyn gynnwys cysylltu Gwybodaeth HESA a enwir neu Wybodaeth HESA â ffugenw â gwybodaeth arall at ddibenion ymchwil. Dyma rai enghreifftiau y gellir cysylltu â nhw:

  • Data Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr – er mwyn gosod canlyniadau'r arolwg hwn yn eu cyd-destun
  • Data ysgolion ac addysg bellach – er mwyn gwneud ymchwil ar fynd ymlaen i AU a chyflogaeth
  • Data y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr – er mwyn gwneud ymchwil ar y defnydd o gyllid myfyrwyr
  • Data ar gyrff sy'n dyfarnu cymwysterau – er mwyn gwneud ymchwil ar werth a chanlyniadau cymwysterau
  • Data cyflogaeth, treth a budd-daliadau – er mwyn gwneud ymchwil ar enillion graddedigion ac i ddeall canlyniadau addysg yn well (ceir canllawiau ynglŷn â'r defnydd o gofnodion HESA sy'n cydweddu â data treth, budd-daliadau a chyflogaeth ar: www.gov.uk/government/publications/longitudinal-education-outcomes-study-how-we-use-and-share-data)
  • Data UCAS – er mwyn gwneud ymchwil ar y broses AU lawn o geisiadau i ganlyniadau
  • Os ydych yn fyfyriwr meddygol, efallai y bydd eich Gwybodaeth HESA yn cael ei chynnwys yng nghronfa ddata ymchwil UKMED (www.ukmed.ac.uk). Y Cyngor Meddygol Cyffredinol yw’r rheolydd ar gyfer y gronfa ddata hon, a ddefnyddir i wneud ymchwil ar gynnydd meddygon yn ystod eu haddysg a'u hyfforddiant


Pan fydd Jisc yn darparu gwybodaeth o'ch Gwybodaeth HESA i drydydd partïon o dan Ddiben 5, gallai defnyddiau trwyddedig y wybodaeth gan drydydd parti gynnwys cysylltu Gwybodaeth HESA â gwybodaeth arall sydd yn cael ei chadw gan y trydydd parti. Ystyrir caniatâd ar gyfer defnydd o'r fath fesul achos. Bydd caniatâd ond yn cael ei roi pan fydd y cysylltiad at ddibenion a amlinellir yn Niben 5 a lle mae'n ddarostyngedig i'r gofyniad i beidio â gwneud cysylltiadau er mwyn adnabod unigolion.

Rhagor o wybodaeth am y rhai sy’n derbyn eich Gwybodaeth HESA

Mae Jisc yn cyhoeddi cofrestr sy’n cynnwys gwybodaeth am y derbynyddion yr ydym yn datgelu data iddynt at ddibenion ystadegol. Mae’r gofrestr fyw i’w gweld yma: https://www.hesa.ac.uk/about/regulation/data-protection/register.

Beth yw fy hawliau?

Mae deddfwriaeth diogelu data yn rhoi hawliau i chi dros eich data personol. Mae'r rhain yn cynnwys hawliau i wybod pa wybodaeth sy'n cael ei phrosesu amdanoch chi a sut y mae'n cael ei phrosesu. Mae'n rhaid i Jisc fodloni'r hawliau hyn ynghyd ag unrhyw sefydliad arall sy'n gwneud penderfyniadau ynglŷn â sut neu pam mae'ch gwybodaeth yn cael ei phrosesu.

Mae gennych chi'r hawl i gael eich hysbysu ynglŷn â sut y defnyddir eich data personol. Adolygir yr hysbysiad preifatrwydd Hynt Graddedigion hwn yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn disgrifio'n gywir sut mae eich Gwybodaeth HESA yn cael ei defnyddio. Efallai y bydd yr hysbysiad hwn yn cael ei ddiweddaru o bryd i'w gilydd – er enghraifft, pan fydd deddfwriaeth newydd yn cael ei deddfu, neu pan weithredir polisïau newydd gan yr awdurdodau cyhoeddus a restrir o dan Ddibenion 2 a 3. Ceir hyd i'r fersiwn ddiweddaraf o hyd ar cy.graduateoutcomes.ac.uk/privacy-info. Mae fersiynau blaenorol ar gael ar wefan HESA.

I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelu data, gan gynnwys manylion cyswllt ar gyfer Swyddog Diogelu Data Jisc, ewch i www.hesa.ac.uk/dataprot. Os oes gennych gwestiynau ynglŷn â sut y defnyddir eich Gwybodaeth HESA, cysylltwch â [email protected].

O dan y GDPR, mae gennych yr hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol. Mae gennych hefyd: hawliau i gywiro gwybodaeth anghywir, cyfyngu prosesu a gwrthwynebu prosesu; a’r hawl i'ch gwybodaeth gael ei hanghofio (h.y. dileu'ch data personol). Mae'r hawliau hyn yn gyfyngedig o dan rai amgylchiadau. Bydd Jisc yn gallu gweithredu ceisiadau i ddileu gwybodaeth os cânt eu gwneud cyn 1 Ionawr 2024 ar gyfer y flwyddyn arolygu bresennol (h.y. ar gyfer y rhai sy’n gadael o flwyddyn academaidd 2021/22). O'r dyddiad hwnnw ymlaen, ni fydd yn bosibl i Jisc weithredu ceisiadau dileu: bydd Jisc yn dibynnu ar Erthygl 17(3)(b) a (d) y GDPR, fel sail i wrthod eich cais.

Os nad ydych am gwblhau'r arolwg, nid oes gorfodaeth arnoch i wneud hynny. Os nad ydych chi eisiau i rywun gysylltu â chi o gwbl ar gyfer yr arolwg, anfonwch neges e-bost at [email protected].

Gall yr arolwg gofyn am eich caniatâd i'ch darparwr gysylltu â chi ynghylch eich ymatebion i'r arolwg. Os hoffech dynnu'r caniatâd hwn yn ôl ar unrhyw adeg anfonwch e-bost at [email protected].

Os ydych yn credu bod problem ynglŷn â'r ffordd y mae Jisc yn trafod eich data, mae gennych yr hawl i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: https://cy.ico.org.uk/.

A yw fy nata yn cael ei gadw'n ddiogel?

Mae Jisc yn trin diogelwch gwybodaeth yn ddifrifol iawn ac mae'n ymrwymedig i gadw'ch data yn ddiogel. Mae Jisc yn ardystiedig i safonau diogelu gwybodaeth ac mae'n ymgymryd â monitro manwl o'i systemau. Mae hyn yn cynnwys logio cyfeiriadau IP defnyddwyr y system arolwg.

Mae Jisc yn ardystiedig i'r safon ryngwladol ISO27001 ar gyfer rheoli diogelwch gwybodaeth, a safon Cyber Essentials  y DU ar gyfer seiberddiogelwch. Mae'r systemau a ddefnyddir i gynnal yr arolwg Hynt Graddedigion yn destun profion hacio er mwyn adnabod a lleihau gwendidau.

Mae'r system arolwg ar-lein yn logio cyfeiriad IP, system weithredu a phorwr pob defnyddiwr at ddibenion diogelwch ac archwilio ac i wella ansawdd y system arolwg.

A yw fy ngwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i wledydd eraill?

Efallai y caiff eich Gwybodaeth HESA ei throsglwyddo i wledydd y tu allan i'r Deyrnas Unedig at y dibenion a ddisgrifir uchod.

Dim ond i wledydd yr aseswyd bod eu deddfau diogelu data yn ddigonol, neu lle mae mesurau diogelu digonol ar waith i ddiogelu eich Gwybodaeth HESA, y bydd eich Gwybodaeth HESA yn cael ei throsglwyddo.

HESA, part of Jisc